Nid yw aelodau'r staff yn gyfieithwyr nac yn cynnig gwasanaeth cyfieithu, ond maen nhw'n barod i roi pob help i chi ddod o hyd i gyfieithydd a/neu gyfieithydd ar y pryd o blith aelodau'r Gymdeithas.
Ar hyn o bryd mae'r Gymdeithas yn cyflogi dau swyddog amser-llawn i reoli a gweinyddu'r Gymdeithas a threfnu ei rhaglen o weithgareddau.
Ymunodd Geraint â'r Gymdeithas ddiwedd Ebrill 2007. Cyn hynny bu'n gweithio mewn gwahanol swyddi rheoli, gweinyddu a marchnata gyda Cyfle, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cwmni'r Frân Wen, a Chwmni Theatr Cymru.
Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyn hynny bu'n ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri, Ysgol Gynradd y Bermo, ac Ysgol Gymraeg Llundain.
Mae'n byw yng Nghricieth.
Dilynodd Nia gwrs Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna am 12 mlynedd bu'n gweithio fel actores hunan-gyflogedig mewn gwahanol feysydd gan gynnwys ffilm, teledu a theatr, yn bennaf ym myd theatr-mewn-addysg.
Yn 1999 dilynodd gwrs Diploma Dwyieithog Uwch mewn Gweithdrefnau Gweinyddol yng Ngholeg Menai. Yn dilyn llwyddo yn y cwrs hwnnw, ymunodd â'r Gymdeithas yn Swyddog Gweinyddol ym mis Gorffennaf 2000. Mae bellach yn Rheolwr Systemau y Gymdeithas.
Yn enedigol o Gaernarfon, mae bellach yn byw yn Llangefni.
Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.