Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Fiona Gannon

Trosiadau Twt
30 Hebron Road
Clydach
Abertawe
SA6 5EJ

Aelodaeth
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Gymraeg
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Saesneg
  • Aelod Cyfieithu ar y Pryd - i'r Saesneg
  • Aelod Cyfieithu ar y Pryd - i'r Gymraeg
Proffil

Cyn dechrau cyfieithu'n amser llawn, bûm yn darlithio am rai blynyddoedd mewn meysydd ieithyddol yn y Brifysgol. Roedd hynny'n cynnwys gwersi gramadeg dadansoddol i fyfyrwyr is-raddedig yn eu blwyddyn olaf, felly rwy'n fwy na pharod i helpu cleientiaid trwy egluro pam mae rhai dewisiadau'n fwy neu'n llai derbyniol o ran patrymau naturiol y Gymraeg. Yn fy mhrofiad i, mae hynny'n gallu rhoi llawer o dawelwch meddwl i gleientiaid sydd heb fedru'r Gymraeg eu hunain.

Bellach rwy'n cyfieithu ar fy liwt fy hun, ond mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad o weithio fel rhan o dîm ac yn bennaeth ar dîm cyfieithu mewn awdurdodau lleol, felly mae holl feysydd llywodraeth leol yn gyfarwydd iawn i mi.

Mae gen i hefyd brofiad helaeth o gyfieithu gwaith i gyrff sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac rwy bob amser yn barod i ystwytho'r mynegiant ar gyfer cynulleidfa iau os bydd angen.

Personol

Pryd bynnag bydda i wrth fy ngwaith, bydd cerddoriaeth yn y cefndir, a gall alawon y dydd amrywio o gampweithiau oes Bach a Handel i gerddoriaeth roc y 70au!

Rwyf hefyd yn cael cwmni sawl cath wrth y ddesg, ac os dewch chi ar fy nhraws pan fydda i allan yn CAPo, cofiwch sylwi ar fy esgidiau - mae gen i gryn gasgliad!

Cymwysterau

BA Cymraeg
PhD Tafodieitheg a Chymdeithaseg Iaith
Cymhwyster TEFL