Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Adnoddau

Adnodd pwysicaf cyfieithydd wrth ei waith yw gafael cadarn ar y ddwy iaith y mae'n cyfieithu rhyngddyn nhw.

Mae'r un mor bwysig ei fod yn deall y broses gyfieithu, yn gwybod am nifer o ddulliau cyfieithu mewn gwahanol sefyllfaoedd, a deall nad yw siaradwyr ieithoedd gwahanol yn darllen a deall y byd yn yr un ffordd bob amser.

Gall llawer o adnoddau fod yn help i'r cyfieithydd, a dylai wybod ble i chwilio am gymorth ieithyddol neu gymorth pwnc. Rydym yn rhestru yma nifer o eiriaduron a llawlyfrau eraill, ond ni all y rhestrau fod yn gyflawn nac yn gyfredol gan fod yr adnoddau yn datblygu mor gyflym a phawb yn defnyddio rhai gwahanol.

Os ydych chi'n teimlo y dylen ni ychwanegu rhywbeth at ein rhestrau yn yr adran hon, rhowch wybod inni!

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.