Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Gramadeg

Iaith ydy eich arf pwysicaf fel cyfieithydd, ac felly mae’n rhaid gwybod sut i’w defnyddio.

Gall eich wybodaeth o ramadeg lywio'ch arddull a'ch cystrawen, a gorau po fwyaf fydd eich rheolaeth ar iaith!

Dylai pob cyfieithydd fod â gafael gref ar ramadeg neu, os yn ansicr, wybod ble i ddod o hyd i wybodaeth. Mae cael cyfeirlyfrau neu wefannau gramadegol wrth law yn allweddol i sicrhau cywirdeb iaith, ac nid yw greddf bob amser yn ddigonol. Dylech allu egluro eich defnydd o iaith, hyd yn oed os oes mwy nag un ffordd yn dderbyniol.

Rydym yn awgrymu yma restr fer o lyfrau gramadeg a chyfeirlyfrau ieithyddol mwy penodol. Mae pawb yn ffafrio rhai gwahanol, ac felly bydd yn rhaid i chi chwilota drwyddyn nhw i weld pa rai o’r adnoddau hyn fydd yn fwyaf addas ar eich cyfer chi.


Llyfrau iaith a gramadeg – canllawiau iaith a chymorth sillafu

A Comprehensive Welsh Grammar/Gramadeg Cymraeg Cynhwysfawr

David A. Thorne, Blackwell, 1993

Canllawiau Iaith a Chymorth Sillfau

J. Elwyn Hughes, Gwasg Gomer, 1997, 2000

Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg

J. Elwyn Hughes, Gwasg Gomer, 1998

Cywiriadur Cymraeg

Morgan D. Jones, Gwasg Gomer, 1965

Elfennau Gramadeg Cymraeg

Stephen J. Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1980

Gafael mewn Gramadeg

David A. Thorne, Gwasg Gomer, 2000

Gramadeg y Gymraeg

Peter Wynn Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru, 1996

Iawn Bob Tro

Dafydd Glyn Jones, Dalen Newydd Cyf.

Idiomau Cymraeg - Y Llyfr Cyntaf

R. E. Jones, Ty John Penri, 1995

Idiomau Cymraeg - Yr Ail Lyfr

R. E. Jones, Ty John Penri, 1987

Orgraff yr Iaith Gymraeg Rhan 11

Ceri W. Lewis, Gwasg Prifysgol Cymru, 1987

The Oxford Minidictionary of Spelling and Word-division

Oxford University Press, 1986

Pa Arddodiad?

D. Geraint Lewis, Gwasg Gomer, 2000

Y Golygiadur

Rhiannon Ifans, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006

Y Llyfr Berfau

D. Geraint Lewis, Gwasg Gomer, 1995

Y Treigladau a’u Cystrawen

T.J. Morgan, Gwasg Prifysgol Cymru, 1989

Y Treigladur

D. Geraint Lewis, Gwasg Gomer, 1993

Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg

Gwyn Thomas, Y Lolfa, 2015


Golygu

The Oxford Dictionary for Writers and Editors

Oxford University Press, 1981

Hart’s Rules for Compositors and Readers at the University Press Oxford

Oxford University Press, 1983

Editing and Revising for Translators

Brian Mossop, St Jerome, 2006


Cyrsiau ac ymarferion gloywi iaith

Mae'r Gymdeithas yn cynnal gweithdai ar ramadeg o bryd i'w gilydd. Ewch i'r dudalen gweithdai am restr gyfredol o'n digwyddiadau.

Mae rhai o’r canolfannau Cymraeg i Oedolion yn cynnig cyrsiau gloywi iaith os oes galw amdanyn nhw. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cwrs tystysgrif iaith ar-lein i’w fyfyrwyr.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.