Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Gweithdai

Un o amcanion y Gymdeithas yw sicrhau cyfleoedd i’w haelodau a chyfieithwyr eraill i wella, cynyddu a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Mae'r Gymdeithas, felly, yn trefnu gweithdai sy’n berthnasol i anghenion cyfieithwyr ar bob lefel o’u gyrfaoedd.Cynhelir y gweithdai hyn mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled Cymru er mwyn ei gwneud hi’n hwylus i gyfieithwyr lle bynnag y maen nhw’n gweithio ac yn byw i fynd iddyn nhw. Ystyrir fod y ddarpariaeth hon yn wasanaeth pwysig iawn a gaiff ei werthfawrogi’n gyffredinol. Rydym hefyd yn trefnu’r e-weithdy cyfieithu, sef hyfforddiant sy'n digwydd trwy gyswllt e-bost yn unig.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Taro'r Cywieiriau

Tiwtor - Robat Trefor

Gweithdy ar gyweiriau’r Gymraeg, y gwahaniaethau sydd rhyngddynt a’r defnydd priodol arnynt. Os cedwir at ddefnyddio Cymraeg llenyddol ffurfiol ar gyfer adroddiadau a dogfennau polisi, y mae dadl gref dros ystwytho’r iaith ar ffurflenni ac mewn llythyrau. Byddwn yn trafod i ba raddau y dylid ystwytho a llafareiddio’r iaith at ddibenion gwahanol, ac yn edrych ar ganllawiau posibl ar gyfer gwneud hynny.   

Y mae Dr Robat Trefor yn olygydd a phroflennydd profiafol sy’n gweithio dridiau’r wythnos ar hyn o bryd i wasg Y Lolfa. Y mae wedi bod yn ddarlithydd rhan amser yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor ers chwarter canrif. 


Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2025 - Intec, Bangor
Dydd Iau, 27 Chwefror  2025 - Canolfan yr Urdd, Caerdydd  

Y dyddiad olaf i gofrestru fydd pythefnos cyn eich dewis ddiwrnod.

Pris:
£65.00 i Aelodau, (yn ogystal â’r Cwmnïau Cydnabyddedig,Sefydliadau Cydnabyddedig a’r Darpar Aelodau)

£95.00 i bawb arall

Bydd y gweithdy’n un hanner diwrnod (9:30am- 1pm).

Cymraeg Clir 2: Mwy o Gymraeg Clir

Tiwtor - Siân Esmor

Gweithdy ymarferol i unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu mewn iaith fwy syml a chlir. Bydd y cwrs yn ddilyniant naturiol i’r cwrs Cymraeg Clir y mae Siân eisoes wedi ei gynnal i ni, ond does dim rhaid i chi fod wedi bod ar y cwrs cyntaf i wneud hwn.

Fe gewch chi gyfle i adolygu’r prif egwyddorion cyn ymarfer ysgrifennu mewn Cymraeg Clir mewn sawl maes a chyd-destun. Bydd cyfle i chi symleiddio darnau Cymraeg a chyfieithu’n uniongyrchol o’r Saesneg i Gymraeg Clir. Y prif wahaniaeth rhwng hwn a’r cwrs cyntaf ydy y bydd y darnau ymarfer yn fwy estynedig ac yn fwy amrywiol eu cynnwys y tro yma, gan roi cyfle i chi fireinio eich sgiliau. Bydd y trafod yr un mor fywiog, gobeithio!

Mae Siân Esmor yn diwtor iaith profiadol. Ar ôl treulio dros 12 mlynedd yng Nghanolfan Bedwyr yn diwtor sgiliau iaith, mae hi bellach yn diwtor, golygydd ac ymgynghorydd iaith llawrydd.


Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2025 - Intec, Bangor
Dydd Iau, 13 Mawrth 2025 - Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2025 - Canolfan yr Urdd, Caerdydd  
 

Y dyddiad olaf i gofrestru fydd pythefnos cyn eich dewis ddiwrnod.

Pris:
£120.00 i Aelodau, (yn ogystal â’r Cwmnïau Cydnabyddedig,Sefydliadau Cydnabyddedig a’r Darpar Aelodau)

£160.00 i bawb arall

Bydd y gweithdy’n un diwrnod (9:30am-4:30pm), a'r pris i gynnwys cinio ysgafn a lluniaeth yn ystod y dydd.