Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Ymarferion cyfieithu i'r Saesneg

Mae'r ymarferion cyfieithu hyn yn gyfle i chi roi cynnig ar gyfieithu rai o gyn bapurau arholiad a chyn ddarnau yr e-weithdy cyfieithu Sylfaenol i'r Saesneg y Gymdeithas.

Cyfarwyddiadau

Cam 1: Darllenwch y darn Cymraeg yn ofalus gan roi sylw arbennig i'w gywair. Gallwch ei argraffu os yw'n well gennych ddarllen copi papur.

Cam 2: Ewch ati i'w gyfieithu gan geisio cyflawni'r dasg mewn awr. Peidiwch â defnyddio adnoddau heblaw'r rhai a fydd ar gael ichi yn yr arholiad cofiwch na fyddwch, felly, yn gallu defnyddio'r we.

Cam 3: Golygwch eich cyfieithiad yn ofalus a thrylwyr. Bydd rhai pobl yn teimlo y gallant olygu testun ar bapur yn well na thestun ar sgrin.
Pan fyddwch yn cyfieithu, dylech feddwl am y pedair elfen arholi: Ystyr, Cywair, Cystrawen, Cywirdeb. Mae'r rhain yn elfennau cyfleus i fesur safon eich cyfieithu ond cofiwch fod gorgyffwrdd weithiau rhwng yr elfennau hyn. Holwch eich hunan ynghylch y canlynol:

  1. Ystyr: ydych chi wedi deall y pwnc a chyfleu'r holl wybodaeth yn gywir?
  2. Cywair: ydych chi wedi dewis y geiriau, y termau a'r priod-ddulliau addas i'r cyd-destun?
  3. Cystrawen: ydych chi wedi trefnu a chydlynu'ch brawddegau yn ystyrlon a chrefftus?
  4. Cywirdeb: ydych chi wedi cymryd gofal o ran sillafu, treiglo, morffoleg, y cysylltnod, atalnodi ac acenion

Cam 4: Edrychwch ar y darn gwreiddiol eto a sylwch ar y sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed i wella rhai o'r cyfieithiadau a dderbyniwyd. O'u darllen, gofynnwch sut y byddech chi'n asesu eich cyfieithiad chi

DS - Sylwadau ar sgriptiau a gyflwynwyd yn yr arholiad/e-weithdy dan sylw yw'r rhain a welwch ond gallant fod yn berthnasol i'ch gwaith chithau.

Ymarfer 1 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae’n bur debyg na fyddai’r Wladfa ym Mhatagonia wedi cael ei sefydlu yn 1865 oni bai am haelioni ariannol un Gymraes, sef Anne Lloyd, gwraig Michael D Jones...

Ymarfer 2 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae deiseb ag arni dros ddeg mil o enwau wedi galw am ddileu'r cynlluniau dadleuol i gael cerflun 'cylch haearn' ger Castell y Fflint...

Ymarfer 3 - cyfieithu i'r Saesneg

Dywedodd Gandhi mai gwir fesur unrhyw gymdeithas yw'r modd y mae hi'n trin ei gweiniaid...

Ymarfer 4 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio rhwydwaith newydd er mwyn gwella sut mae athrawon yn dysgu’r Cyfnod Sylfaen.

Ymarfer 5 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae cynghorau sir gogledd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd i fynd i’r afael â phroblem digartrefedd, mewn partneriaeth â Sefydliad Tai Siartredig Cymru.

Ymarfer 6 - cyfieithu i'r Saesneg

Dwi ddim yn gogydd proffesiynol, dwi ddim yn ddeietegydd ac yn sicr dwi ddim yn arbenigwr ar blant.

Ymarfer 7 - cyfieithu i'r Saesneg

Daeth defnyddio tanwydd wedi’i wneud o olew llysiau yn hytrach nag o betrol yn boblogaidd yn ddiweddar. Mae 30m o gerbydau diesel ym Mhrydain...

Y cam nesaf: Os teimlwch, ar ôl cyfieithu a darllen y sylwadau, eich bod wedi cael hwyl arni, beth am gofrestru ar gyfer yr e-weithdy cyfieithu a chael adborth personol ar eich gwaith?