Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Amdanom ni

Nod Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw cynnal, sicrhau a hyrwyddo safonau cyfieithu proffesiynol, a gwella, cynyddu a datblygu sgiliau a gwybodaeth cyfieithwyr.

Llwydda’r Gymdeithas, fel yr unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymraeg i/o'r Saesneg, i wireddu ei nod mewn sawl dull a modd, gan gynnwys:

  • cynyddu ein haelodaeth i gynrychioli mwy a mwy o gyfieithwyr;
  • cynnal arholiadau aelodaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd;
  • hybu datblygiad proffesiynol cyfieithwyr, trwy drefnu rhaglen amrywiol o weithdai, a datblygu ‘Balchder Crefft’, ein Cynllun Datblygu Proffesiynol Parhaus;
  • cynnal perthynas â sefydliadau Addysg Uwch, yn enwedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • cynnal a meithrin ein cysylltiadau â chyrff a sefydliadau eraill y tu mewn i’r byd cyfieithu a thu hwnt;
  • hyrwyddo a marchnata’r Gymdeithas a’i haelodau.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Aelodaeth

Mae gan y Gymdeithas dri chategori o aelodaeth i gyfieithwyr proffesiynol: Cyflawn a Sylfaenol ym maes cyfieithu testun, ac aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd. Yr unig ffordd o ennill aelodaeth o'r Gymdeithas yw trwy lwyddo yn ei threfn arholi.

Mae holl aelodau’r Gymdeithas yn ymrwymo i ymddwyn yn unol â’r Cod Ymddygiad Proffesiynol wrth dalu eu tâl aelodaeth. Ynghlwm wrth hynny, mae gan y Gymdeithas drefn gwyno. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnig Gwasanaeth Asesu Ansawdd Cyfieithiad, gwasanaeth y codir ffi amdano.

Mae gan y Gymdeithas gategorïau cyswllt sy'n caniatáu iddi roi cydnabyddiaeth i gwmnïau cyfieithu, sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau yn y trydydd sector. Er mwyn annog a chefnogi myfyrwyr sydd â’u bryd ar ddilyn gyrfa fel cyfieithwyr, sefydlwyd y categori Myfyriwr Cyswllt.

Datblygu proffesiynol

Mae’r Gymdeithas yn gosod y gwerth mwyaf ar hybu datblygiad proffesiynol ei haelodau a darpar aelodau. Mae’n trefnu rhaglen amrywiol o weithdai ar hyd a lled Cymru. Anogir yr aelodau, trwy’r cynllun datblygu proffesiynol parhaus ‘Balchder Crefft’, i ddiweddaru eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyson er mwyn gallu cynnig gwasanaeth o safon uchel.

Mae aelodau’r Gymdeithas yn gweithio i sefydliadau yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, sefydliadau addysgiadol) mewn cwmnïau cyfieithu yn y sector preifat, i fudiadau yn y trydydd sector, ac ar eu liwt eu hunain.