Adnoddau > Technoleg cyfieithu
Er bod meddwl craff a gallu ieithyddol yn mynd i fod yn angenrheidiol bob amser i fod yn gyfieithydd da, mae technoleg wedi newid y ffordd y mae cyfieithwyr yn gweithio.
Mae'r gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael i'r cyfieithydd yn cynnwys:
- meddalwedd cof cyfieithu
- cyfieithu peirianyddol
- geiriaduron a rhestrau termau ar-lein ac electronig
- meddalwedd adnabod llais
- systemau rheoli llif gwaith
- chwilio'r we
- fforymau trafod ar-lein
Ni fydd pob cyfieithydd yn defnyddio pob un ohonyn nhw, ond mae'n sicr bod mwy o ddisgwyl i gyfieithwyr allu defnyddio technoleg amrywiol a bod yn gyfarwydd â gwahanol fathau o feddalwedd.
Arweiniad ar dechnoleg i gyfieithwyr
Mae'r daflen hon yn rhoi arweiniad bras i gyfieithwyr ar y technolegau sydd ar gael iddyn nhw. (Saesneg yn unig ar y funud)
Pa dechnoleg ydych chi'n ei defnyddio?
Os hoffech chi rannu eich profiadau o becyn meddalwedd, canmol un penodol neu ddweud am anawsterau gydag un arall, cysylltwch â ni.