Ydych chi’n meddwl y byddech chi’n elwa o gael mentor? Nid er mwyn prawf ddarllen eich gwaith ond er mwyn trafod cyfeiriad a strategaeth eich gyrfa? Ydych chi ar fin dechrau rheoli ac erioed wedi rheoli o’r blaen? Neu efallai eich bod yn ystyried mynd yn llawrydd ac eisiau trafod sut mae rheoli llif gwaith, delio gyda chleientiaid neu hyrwyddo a marchnata eich busnes?
Os felly cysylltwch â’r swyddfa a byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i rywun fydd yn addas ar eich cyfer.
Gallwn hefyd drefnu cyfle i gyfieithwyr amhrofiadol gysgodi cyfieithydd arall wrth ei waith.
Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.