Ymaelodi > Ymddygiad proffesiynol
Mae pob un o aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ymrwymo i'r Cod Ymddygiad Proffesiynol wrth dalu'i dâl aelodaeth flynyddol.
Mae'r Cod yn gosod y safon broffesiynol a'r safon o onestrwydd y mae'n rhaid i bob aelod lynu wrthynt wrth ei waith fel cyfieithydd ac fel aelod o gorff proffesiynol.
Mae'r Cod yn gosod dyletswydd ar bob aelod i ymddwyn yn anrhydeddus tuag at ei gyd-aelodau a'r Gymdeithas ac i beidio dwyn anfri arnynt. Yn yr un modd, rhaid i aelod gynnig y gwasanaeth gorau posib i'w gwsmeriaid a chynhyrchu gwaith o'r safon uchaf ar bob achlysur.
Mae holl aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddarostyngedig i gynnwys y Cod Ymddygiad Proffesiynol. Mae'n ymwneud â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg yn unig ac nid ag unrhyw gyfuniad arall o ieithoedd.
Gallwch lawrlwytho Cod Ymddygiad Proffesiynol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yma: |
Trefn gwyno
Mae gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru drefn gwyno pe bai rhywun yn credu fod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad Proffesiynol. Rhaid i unrhyw gŵyn fod yn erbyn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Gall unrhyw sefydliad neu unigolyn gyflwyno cwyn. Mae'n rhaid defnyddio'r Ffurflen Gwyno wrth gyflwyno pob cwyn.
Cyn gwneud cwyn, fe ddylai'r ddwy ochr wneud eu gorau glas i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt. Dim ond os yw'r ddwy ochr wedi methu datrys yr anghydfod rhyngddynt y dylai'r achwynydd gyflwyno cwyn.
Gallwch lawrlwytho dogfennau'r drefn gwyno yma: |