Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Datblygu Proffesiynol

Wrth sôn am hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol, cyfeirir at yr hyn y mae rhywun yn ei wneud i wella, diweddaru ac ymestyn ei sgiliau a'i wybodaeth broffesiynol a nodweddion allweddol eraill er mwyn cynhyrchu gwaith o'r safon uchaf bosibl.

Nid yw cyfieithwyr yn wahanol i broffesiynau eraill yn hyn o beth. Mae'r Gymdeithas yn annog ei haelodau a chyfieithwyr eraill i fynd ati i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hyfforddi, rhwydweithio a datblygu sydd ar gael iddyn nhw.

Yn wir, mae datblygu proffesiynol a hyfforddi'n hollol wirfoddol: chi sy'n dewis pa sgiliau mae angen i chi eu datblygu a pha gyrsiau a gweithdai i gymryd rhan ynddynt. Ond rhaid pwysleisio bod datblygu proffesiynol yn fanteisiol i gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, o'r dechreuwyr hyd at y rhai mwyaf profiadol.

Mae'r Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Cynigiwn gyfleoedd hyfforddi i gyfieithwyr a darpar gyfieithwyr trwy'n gweithdai, yr e-weithdy cyfieithu, a'r Ymarfer CAP. Mae'r gweithgareddau hyn i gyd yn agored i bawb a heb eu cyfyngu i'n aelodau'n unig. Gallwn hefyd drefnu rhaglen o hyfforddiant a fydd wedi'i deilwra'n uniongyrchol i anghenion unrhyw sefydliad neu gwmni.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.