Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cyngor ynghylch comisiynu cyfieithydd

Gan fod cyflwyniad dwyieithog lle mae’r Gymraeg o safon uchel yn gwella eich delwedd, y mae’n hanfodol cyflogi cyfieithydd cymwys.

Cyfieithu testun

1. Dewis cyfieithydd
Y mae cael cyfieithiad o safon yn hanfodol bwysig. Disgwylir i Aelodau Cyflawn Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gyflawni gwaith na fydd angen unrhyw olygu pellach arno.

Mae Aelodau Sylfaenol wedi llwyddo yn arholiad y Gymdeithas ac wedi cyrraedd y lefel sy'n briodol i gyfieithydd sydd wedi bod yn gweithio dan oruchwyliaeth am flwyddyn o leiaf. Gall amryw ohonynt, wrth gwrs, fod yn llawer mwy profiadol na hynny.

Yn y cyfeirlyfr nodir pa iaith y mae'r aelodau yn gymwys i gyfieithu iddi.

2. Cytuno ar delerau
Y mae'n bwysig egluro beth yw gofynion y gwaith a'r cyd-destun a thrafod unrhyw dermau arbennigol a all godi.

Dylech gytuno ar delerau ac amserlen ar gyfer y gwaith ymlaen llaw. Fel arfer bydd cyfieithydd yn codi tâl am ei waith fesul 1,000 o eiriau, ond y mae gan y rhan fwyaf o gyfieithwyr isafbris. Weithiau bydd angen codi tâl fesul awr. Holwch a yw'r cyfieithydd yn codi TAW.

Wrth gytuno ar y gyfradd gyfieithu dylech holi a yw'r gyfradd honno yn cynnwys gwasanaeth cywiro proflenni. Os nad yw, dylech holi am y gyfradd a godir am y gwaith hwnnw.

Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth dylech ddewis un aelod o'ch staff yn ddolen gyswllt rhwng eich cwmni/sefydliad a'r cyfieithydd.

Y mae'n bwysig bod y cyfieithydd yn gwarantu ansawdd da a chysondeb steil a therminoleg os bydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar ddogfen.

3. Cywiro proflenni
Gan fod cywiro proflenni yn rhan bwysig o'r broses gyfieithu rhaid sicrhau digon o amser ar gyfer gwneud hynny yn drylwyr. Gall mân gamgymeriadau, yn aml fod yn gostus, yn enwedig ar arwyddion.

Fel arfer, y cyfieithydd ei hun fydd yn cywiro'r proflenni gan mai ef/hi fydd yn gyfrifol am gywirdeb y gwaith terfynol.

4. Meddalwedd
Y mae'n bwysig eich bod yn holi pa feddalwedd y mae'r cyfieithydd yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â'ch meddalwedd chi. Bydd rhai sefydliadau sydd yn comisiynu gwaith cyfieithu yn barod i osod eu meddalwedd hwy ar gyfrifiadur y cyfieithydd.


Cyfieithu ar y Pryd

1. Trefnu Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd
Mae cyfieithu ar y pryd yn grefft bur wahanol i gyfieithu ar bapur. Defnyddir y gwasanaeth yn helaeth mewn rhai rhannau o Gymru gyda chyfarfodydd yn amrywio o gyfarfod cyngor cymuned i gynhadledd genedlaethol. At ei gilydd, cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a wneir yn y cyfarfodydd hyn er mwyn i'r di-Gymraeg fedru dilyn y gweithgareddau.

Dylai trefnwyr cyfarfodydd lle defnyddir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd anfon copiau o ddogfennau'r cyfarfod at y cyfieithydd ymlaen llaw lle mae hynny'n bosibl.

I sicrhau llwyddiant y gwasanaeth, dylai'r Cadeirydd gyfeirio at y gwasanaeth ar ddechrau'r gweithgareddau a sicrhau bod pawb yn deall sut i ddefnyddio'r offer, ac yn gwybod i ba iaith y cyfieithir. Y mae llwyddiant y gwasanaeth yn dibynnu lawn cymaint ar agwedd y cadeirydd ag ar grefft y cyfieithydd. Os ydych fel cwmni neu sefydliad yn penderfynu gwario ar wasanaeth cyfieithu y mae'n bwysig eich bod yn annog aelodau'r pwyllgor neu'r cynadleddwyr i'w ddefnyddio.

2. Dewis Cyfieithydd ar y Pryd
Mae Aelodau Cyfieithu ar y Pryd y Gymdeithas wedi llwyddo yn ei phrawf. Mae'r lefel yn cyfateb i safon gwbl broffesiynol.

Cofiwch fod y math hwn o gyfieithu yn waith trwm ac os rhagwelir y bydd angen i gyfieithydd fod wrthi am fwy na hanner awr yn ddi-dor, dylech gyflogi ail gyfieithydd.

3. Cytuno ar delerau
Cytunwch ar y telerau ymlaen llaw wedi ichi holi mwy nag un cyfieithydd.

Fel rheol bydd cyfieithwyr yn codi fesul awr. Os bydd yn gyfarfod o gwmpas y bwrdd bydd cyfieithwyr hefyd yn codi am yr amser y byddant yn teithio yn ôl ac ymlaen o'u canolfan waith yn ogystal ag am yr oriau y byddant wrthi'n cyfieithu. Holwch a yw'r cyfieithydd yn codi TAW.

4. Offer Cyfieithu ar y Pryd
Fel arfer bydd gan y cyfieithydd ei offer ei hun neu bydd yn gallu trefnu set a dylid cytuno ar delerau llogi ymlaen llaw.

5. Cyfieithu ar y Pryd o bell
Cyngor ar gyfer cynnal cyfarfodydd o bell.


Yswiriant Indemniad

Mae'r ffaith bod gan gyfieithydd yswiriant indemniad yn diogelu hawliau'r cwsmer ac yn awgrymu bod gan y cyfieithydd agwedd broffesiynol wrth ymdrin â chwsmeriaid.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.