Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Darparwyr eraill

Bydd digwyddiadau a chyrsiau i gyfieithwyr yn cael eu trefnu gan gyrff eraill hefyd, rhai yn Lloegr, rhai ar-lein, a rhai yn rhyngwladol.

Nid oes angen i hyfforddiant gynnwys y Gymraeg i fod yn berthnasol i gyfieithwyr Cymru. Gall darpariaeth hyfforddiant cyfieithwyr y byd fod yn fwy arbenigol weithiau, neu gall gynnig mwy o amrywiaeth o bynciau. Er na fydd yn bosibl teithio'n bell yn aml, bydd edrych ar raglenni hyfforddi eraill yn rhoi syniad ichi sut mae cyfieithwyr eraill yn trafod eu gwaith.

Mae'r Institute of Translating and Interpreting yn cynnal eu rhaglen hyfforddiant eu hunain, ac maen nhw hefyd yn cadw digwyddiadur rhyngwladol ar-lein y gall unrhyw un ychwanegu digwyddiadau ato.

Mae'r Chartered Institute of Linguists (CIOL) yn gorff o aelodau proffesiynol yn y DU ar gyfer gweithwyr ym maes ieithoedd. Mae hefyd yn cynnig ei weithdai ei hun.

Cwmni yw eCPD webinars sy'n trefnu gweminarau i'r ITI ac i weithwyr eraill ym maes ieithoedd. Gall unrhyw un gofrestru ar eu cyrsiau ac mae'r rhan fwyaf yn para awr neu hanner awr!

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.