Ymaelodi > Arholiadau
Cynhelir yr arholiadau testun ar gyfer Aelodaeth Gyflawn ac Aelodaeth Sylfaenol y Gymdeithas ddwywaith y flwyddyn, ym misoedd Ebrill a Hydref.
Gallwch sefyll yr arholiadau mewn un o'n canolfannau arholi yn Aberystwyth, Caerdydd neu yng Nglynllifon (ger Caernarfon).
Arholiadau
Cynhelir dau arholiad 2 awr a 5 munud yr un o fewn un sesiwn ar ddiwrnod yr arholiad, sef:
PAPUR 1 – cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn y bore
PAPUR 2 – cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, yn y prynhawn
Ffioedd: £105 am sefyll un papur a £180 am sefyll y ddau
Ffioedd i aelodau: £90 am sefyll un papur a £150 am sefyll y ddau
Yn yr arholiadau am Aelodaeth Gyflawn rhaid cyfieithu dau ddarn o ryw 300 gair yr un, yn ogystal â chyfieithu darn o ryw 300 gair yn ystod yr wythnos y cynhelir yr arholiadau ynddi
Yn yr arholiadau am Aelodaeth Sylfaenol rhaid cyfieithu dau ddarn o ryw 250 gair yr un.
Gall ymgeisydd ddewis sefyll un arholiad i un iaith yn unig neu sefyll y ddau arholiad.
Arholiadau Aelodaeth Testun 2021
Ein bwriad a’n gobaith yw y gellir cynnal yr Arholiadau Aelodaeth Testun yn ôl yr arfer yn 2021 yn y canolfannau arholi arferol – Aberystwyth, Caerdydd a Glynllifon – ac ar y dyddiadau arferol, sef ym mis Ebrill a dydd Sadwrn cyntaf mis Hydref.
Gwneir cyhoeddiad ynghylch Arholiadau Aelodaeth Testun 2021 ddechrau mis Chwefror 2021.