Ymaelodi > Y Prawf Cyfieithu ar y Pryd (CAP)
Y Prawf Cyfieithu ar y Pryd (CAP)
Cynhelir y Prawf CAP mewn stiwdios sain proffesiynol, sef yn Stiwdio Aran yn Y Groeslon (ger Caernarfon), ac yn CTV Sound Studios yng Nghaerdydd.
Nod y Prawf CAP yw efelychu, orau y gellir, sefyllfa lle bydd gofyn cyfieithu ar y pryd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd gyfieithu dau ddarn o natur wrthgyferbyniol, o ryw 10 munud yr un. Caiff yr ymgeisydd 15 munud i ddarllen gwybodaeth gefndir am y ddau ddarn cyn dechrau cyfieithu. Caiff y darnau prawf eu dangos ar deledu oddi ar DVD. Bydd yr ymgeisydd yn gwrando ar y darnau drwy glustffonau ac yn siarad i feicroffon. Caiff prawf pob ymgais ei recordio a chaiff y recordiad hwnnw ei anfon at aelod o Gofrestr Aseswyr y Gymdeithas a fydd yn ei asesu.
Yma ceir adroddiadau cyffredinol profion CAP diweddar y Gymdeithas.
Prawf CAP nesaf y Gymdeithas
Bwriedir cynnal y Prawf CAP i'r Saesneg a'r Prawf CAP i'r Gymraeg nesaf ym mis Chwefror 2021; y dyddiad i'w gadarnhau.