Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Dechrau cyfieithu

Hoffech chi fod yn gyfieithydd

Yr hyn sy’n hanfodol i fod yn gyfieithydd da yw bod gennych chi ddiddordeb mewn iaith a’ch bod yn sylweddoli mor syfrdanol yw’n gallu ni i gyfathrebu â’n gilydd. Hanfod y broses ryfeddol o allu trosi o un iaith i’r llall yw geiriau a’r gwahanol ffyrdd y mae geiriau mewn gwahanol ieithoedd yn gweithio. Yna, rhaid i chi allu cyplysu’r geiriau â’i gilydd yn gelfydd i greu cyfieithiadau graenus.

Nid yw gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn golygu y gallwch fod yn gyfieithydd. Na, ddim o bell ffordd.

Wrth ystyried gyrfa fel cyfieithydd,

Gofynnwch i chi'ch hun:
  • A oes gen i sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a’r Saesneg, a gafael dda ar y ddwy iaith?
  • Ydw i’n gallu deall a dehongli testun yn y ddwy iaith yn hyderus?
  • Ydw i’n gallu ysgrifennu’n raenus yn y ddwy iaith?
  • Ydw i’n gallu datrys problemau a goresgyn rhwystrau?
  • Ydw i’n gwybod am y gwahaniaethau mawr a mân yng ngwahanol dafodieithoedd Cymru?

Fedrwch chi gyfieithu?

Y cam nesaf yw ystyried a fedrwch chi gyfieithu ac a ydych chi’n mwynhau gwneud hynny. Rhowch gynnig, felly, ar drosi darn o’r Saesneg i’r Gymraeg. Gall fod yn ddarn o destun gwefan, yn erthygl neu’n adroddiad. Dewis arall fyddai ceisio cyfieithu un o ddarnau arholiad Aelodaeth Sylfaenol y Gymdeithas.

Wedi i chi lunio’ch cyfieithiad, ystyriwch pa mor llwyddiannus fu’ch cyfieithiad. Ydy’r cyfieithiad yn ramadegol gywir ac yn darllen yn rhwydd, neu a yw’r iaith yn wallus a’r trosiad yn herciog ac yn un rhibidirês o gamgymeriadau? Gall fod yn anodd i rywun dibrofiad farnu. I gael barn gytbwys am ragoriaethau a diffygion eich gwaith, gofynnwch i gyfieithydd sydd â stôr o brofiad. O gael gwybod am rinweddau a ffaeleddau’ch gwaith, cewch weld a oes deunydd cyw gyfieithydd ynoch chi. Os nad ydych chi’n adnabod cyfieithydd profiadol, holwch y Gymdeithas i weld a oes rhywun a allai’ch helpu.


Hanfodion cyfieithu da

O’r dechrau’n deg, fe ddylech chi fod yn gyfarwydd â hanfodion cyfieithu da. Eich nod, felly, fydd:

  • creu cyfieithiad sy’n cyfleu ystyr y gwreiddiol yn gywir, ond nid yn slafaidd;
  • sicrhau bod yr arddull yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged;
  • defnyddio iaith gywir a’r cywair priodol;
  • gwneud yn siŵr bod y mynegiant yn argyhoeddi yn yr iaith darged;
  • peri i’r darllenydd dybio mai dyna iaith wreiddiol llunio’r testun.

Cymwysterau academaidd

Mae angen addysg hyd at lefel gradd brifysgol arnoch i fod yn gyfieithydd. Er mai’r gred gyffredin yw bod yn rhaid i gyfieithwyr astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ac ennill gradd anrhydedd dda ynddi, dydi hynny ddim bob amser yn wir – yn enwedig wrth i’r cyfleoedd i astudio amrywiaeth o bynciau yn Gymraeg gynyddu drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae amryw byd o gyfieithwyr penigamp wedi dod yn gyfieithwyr ar hyd llwybrau eraill ac ar ôl graddio mewn pynciau eraill (gan gynnwys gwneud gradd gydanrhydedd yn y Gymraeg a phwnc arall).

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth bellach wedi datblygu cynllun cenedlaethol uwchraddedig mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs ar wefan y Brifysgol.


Dechrau gyrfa

Mewn unedau neu wasanaethau cyfieithu yn y sector cyhoeddus, neu mewn cwmnïau neu asiantaethau cyfieithu yn y sector preifat, y bydd y mwyafrif o gyfieithwyr yn dysgu eu crefft. Yno y cewch chi’r sylfaen a fydd yn sail gadarn i’ch gyrfa. Drwy lunio cyfieithiadau, eu trafod gyda’ch cydweithwyr a dysgu o’ch camgymeriadau y gwnewch chi’ch trwytho’ch hun yn hanfodion cyfieithu da.

Fel rheol, bydd cyfieithydd dan hyfforddiant yn gweithio o ddydd i ddydd dan arweiniad uwch-gyfieithydd neu olygydd profiadol. Yr uwch-gyfieithydd neu’r golygydd hwnnw fydd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad y cyw gyfieithydd. Fel cyfieithydd dan hyfforddiant, mae’n debyg y byddwch chi’n datblygu amryw o sgiliau eraill megis adolygu, mireinio a phrawfddarllen cyfieithiadau yn ogystal â datblygu’ch gwybodaeth o feysydd arbenigol.

Bara menyn y mwyafrif o gyfieithwyr yn y naill sector a’r llall yw cyfieithu testun. Gan fod gwaith o bob math yn llifo i mewn ac allan yn ddi-baid fel rheol, mae’n bwysig i chi allu gweithio’n gywir a chyflym i derfynau amser a’ch bod chi bob amser yn parchu cyfrinachedd y testun a’r cwsmer.

Gan fod natur y gwaith yn amrywio cymaint, mae hi hefyd yn bwysig i chi fod â dealltwriaeth dda o amrywiaeth go fawr o bynciau ac i chi ymddiddori’n arbennig mewn materion cyfoes. Yn aml, does wybod beth fydd pwnc y darn nesaf y cewch chi gais i’w gyfieithu.

Bydd hi’n hanfodol hefyd i chi fod â sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn a bod yn barod i’w datblygu ymhellach wrth i chi ddysgu mwy a mwy am holl faes technoleg cyfieithu.


Cyfieithu ar y pryd

Gan fod cyfieithu ar y pryd yn gamp ac yn grefft arbennig iawn, mae’n bosib y cewch chi gyfle i’w flasu a’i feistroli.

Rhaid i’r cyfieithydd ar y pryd allu cyfieithu’n gywir, yn gyflym ac yn rhugl. Ni fydd amser i droi at eiriadur na llyfr gramadeg, a rhaid cyfieithu geiriau’r siaradwr yn y fan a’r lle rhag i’r gwrandawyr golli’r un dim o’r hyn a ddywedir.

Pan fydd y cyfieithwyr ar y pryd gorau wrth eu gwaith, bydd y cyfarfod yn mynd rhagddo’n hwylus, bydd y di-Gymraeg yn dilyn popeth a ddywedir, a bydd iaith y cyfarfod yn symud yn ôl ac ymlaen o’r Gymraeg i’r Saesneg ac yn ôl eto i’r Gymraeg yn gwbl ddidrafferth.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd.


Camau cyntaf

Un ffordd o ddechrau arni yw dod o hyd i gyfleoedd i wneud gwaith cyfieithu’n wirfoddol. Os ydych chi’n fyfyriwr, beth am wneud gwaith cyfieithu i Undeb y Myfyrwyr neu i un o gymdeithasau’r myfyrwyr? Yn eich cymuned chi, a oes grŵp neu fudiad sy’n awyddus i weld cyfieithu ei ddeunyddiau?

Gall cyfieithu am ddim, neu am gyflog isel, i grŵp neu fudiad fod yn ffordd werthfawr o fagu profiad, a gall eich helpu i wneud cryfach cais am swydd gyfieithu yn ddiweddarach.

Os hoffech chi roi cynnig ar gyfieithu ar y pryd, beth am ddechrau drwy wrando ar raglen radio? Dewiswch ddarn o raglen drafod lle mae’r cyflwynydd a’r cyfranwyr yn siarad yn eithaf naturiol ond yn sylweddoli bod cynulleidfa’n gwrando. Cyfieithwch y drafodaeth yn eich meddwl i ddechrau ac yna cyfieithwch hi fel petaech chi’n siarad i feicroffon.


Darpar Aelod

Os ydych chi’n awyddus i ddilyn gyrfa fel cyfieithydd, ystyriwch fod yn Ddarpar Aelod o’r Gymdeithas.

Bwriad cynnig cydnabyddiaeth fel Darpar Aelod yw i annog a chefnogi myfyrwyr a’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa cyfieithu. Caiff y Darpar Aelod elwa ar rwydweithiau a chynghorion a manteisio hefyd ar rai o weithgareddau'r Gymdeithas, gan gynnwys cael dod i’w gweithdai a sefyll ei harholiadau am bris gostyngol. Nid yw bod yn Darpar Aelod yn golygu bod yn aelod o’r Gymdeithas ac ni fydd gofyn i chi dalu tâl ymaelodi.

Fel Darpar Aelod, cewch fagu profiad o weithgareddau’r Gymdeithas ac o gyfarfod â chyfieithwyr profiadol. Bydd hynny’n help wrth i chi ddatblygu’ch gyrfa. Bydd hefyd yn arwydd o’ch dyhead a’ch awydd i ddatblygu a llwyddo fel cyfieithydd ac o’ch ymrwymiad i gyrraedd y safonau proffesiynol uchaf yn eich gwaith.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.