Newyddion
Darlith Goffa Hedley Gibbard 2023

Ym mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Meinir Pierce Jones oedd yn traddodi darlith goffa Hedley Gibbard.
Yn ei sylwadau agoriadol wrth gyflwyno Meinir, fe gydymdeimlodd Prif Swyddog y Gymdeithas, Gwyn Williams, a theulu’r diweddar Hedley Gibbard ar farwolaeth Mair, gweddw Hedley. Roedd Mair wedi bod yn gefnogwr brwd a selog i’r ddarlith a bydd yn chwith mawr hebddi.
Testun darlith Meinir oedd “Y Gymraeg yn y nofel ‘Capten’”. Meinir enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Nhregaron 2022 am ei nofel yn olrhain hanes Elin a John Jones, Glan Deufor ym Mhen Llŷn ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yn ystod y ddarlith fe gafodd y gynulleidfa wybod cymaint yr oedd Meinir wedi pwyso ar atgofion ei phlentyndod, a geiriau ac ymadroddion pobl Nefyn a’r cylch wrth ysgrifennu’r nofel. Ond hefyd fe fanylodd Meinir ar yr holl waith ymchwil yr oedd hi wedi ei wneud, o ddarllen cyfnodolion yr amser i hunangofiannau capteiniaid llong lleol, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr iaith, a’r termau yr oedd hi’n ei defnyddio, yn gywir ac yn taro deuddeg.
Fe gafodd y gynulleidfa wledd i’r glust wrth i Meinir ddarllen pytiau o’i nofel a hefyd mewnwelediad i’r gwaith ymchwil sylweddoli oedd yn sail i’w llwyddiant.


Enillwyr ein gwobrau yn 2022
Ein llongyfarchiadau i enillwyr gwobrau’r Gymdeithas yn 2022 ar sail llwyddiant yn yr Arholiadau Aelodaeth Testun.
Enillwyr Gwobr Goffa Wil Petherbridge oedd Morgan Owen, cyfieithydd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y pryd ond sydd bellach yn aelod o staff Geiriadur Prifysgol Cymru, Jennifer Needs, cyfieithydd yng Nghyllid a Thollau EF, a Lois Roberts-Jones, cyfieithydd yn Cymen.
Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge er cof am gyn-Ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Caiff ei rhoi i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg.
Enillwyr Gwobr Berwyn oedd Siôn Pennant Tomos, cyfieithydd yn Cymen ac Einir Lois Jones, athrawes sy’n ystyried gyrfa fel cyfieithydd.
Cyflwynir Gwobr Berwyn gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Saesneg. Mae’n anrhydeddu Berwyn Prys Jones a fu’n Gadeirydd y Gymdeithas am fwy na chwarter canrif ac yn arweinydd ysbrydoledig ar fyd cyfieithu yng Nghymru.
Wedi i ni fod yn fwy hyblyg wrth gynnig y gwobrau eleni oherwydd na chynhaliwyd arholiadau Sylfaenol ers Hydref 2019, byddwn yn dychwelyd i’r drefn arferol yn 2023 o ddyfarnu’r gwobrau hyn ar sail y ddwy rownd o arholiadau a gaiff eu cynnal yn ystod y flwyddyn (yn Ebrill a Hydref).
Adroddiad Blynyddol 2021-22
Mae Adroddiad Blynyddol 2021-22 yn dangos i’r Gymdeithas lwyddo i barhau i ymateb i anghenion ei haelodau, yn ogystal â chyflawni’r gwaith beunyddiol o weinyddu a threfnu gweithgareddau’r Gymdeithas. Bu’n flwyddyn o ddod yn ôl i normalrwydd yn araf deg bach wrth i ni allu cynnal rhai o’n gweithgareddau creiddiol: yr Arholiadau Aelodaeth Testun yn Hydref 2021 (er ar y lefel Gyflawn yn unig) a gweithdai ar ddiwedd y flwyddyn (pob un yn rhithwir).
Cawsom hefyd y pleser o groesawu Manon Cadwaladr yn Gadeirydd newydd y Gymdeithas. Mae Manon wedi bod yn gyfieithydd ac yn gyfieithydd ar y pryd ers dros ugain mlynedd. Mae hi’n un o gyfarwyddwyr cwmni cyfieithu Cymen, Caernarfon.
Mae Manon yn ymwybodol o’r rôl bwysig a chyffrous sydd gan y Gymdeithas o’i blaen yn codi statws y proffesiwn cyfieithu. Yn benodol gwêl yr angen i ddenu rhagor o gyfieithwyr i ddod yn aelodau o’r Gymdeithas, pwysigrwydd hyfforddiant i gyfieithwyr yn gyffredinol, a’r broblem a achosir gan y diffyg pobol sy’n ymuno â’r proffesiwn. Wrth gydnabod fod cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd yn gwneud gwaith andros o anodd wrth hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, pwysleisiodd yr angen i bawb ddod at ei gilydd a chydweithio er mwyn dod o hyd i’r atebion, helpu’n gilydd fel cyfieithwyr, a chodi statws y proffesiwn.
Ariannwyd y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru yn 2021-22. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth honno a’n galluogodd i gyflawni’r gwaith pwysig a gaiff ei amlinellu yn yr adroddiad.
Y cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol: ysgoloriaeth y Gymdeithas
Unwaith eto eleni fe fydd y Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth o hyd at £1,000 i fyfyriwr neu fyfyrwyr a gaiff eu derbyn i ddilyn y cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n dilyn y Diploma neu’r MA, p’un ai fydd hynny yn amser llawn neu’n rhan-amser. Fel rhan o’r cais am ysgoloriaeth eleni, bydd disgwyl i ymgeiswyr gyfieithu darn prawf.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais am ysgoloriaeth y Gymdeithas yw 5 Medi 2022.
Mae'r cyfarwyddiadau a'r darn i'w gyfieithu i'w cael yn y pecyn gwybodaeth.
Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
Darlith Goffa Hedley Gibbard
Cynhelir darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn Cymdeithasau 1, ddydd Iau, 4 Awst 2022, am hanner dydd.
‘Yn y dechreuad ...’ yw’r teitl a Mary Jones yw’r darlithydd. Roedd Mary’n un o’r cyfieithwyr cyntaf i weithio yn uned gyfieithu’r Swyddfa Gymreig yn y 60au dan arweiniad Moc Rogers, Ffair-rhos, ac yn y ddarlith bydd yn hel atgofion am ddyddiau cynnar cyfieithu.
Cynhaliwyd darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru oddi ar 2002 i goffáu Hedley Gibbard (1936-2001) fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad a’i waith arloesol ym maes cyfieithu Cymraeg<>Saesneg yng Nghymru.
Bydd y Gymdeithas hefyd yn ymwneud â thri digwyddiad arall yn yr Eisteddfod, pob un ohonynt ar stondin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
- Prynhawn dydd Mercher am 3pm caiff yr Her Gyfieithu a chyfieithu llenyddol rhyngwladol yn y Gymru gyfoes ei ddathlu. Bu’r gystadleuaeth hon yn mynd ers 2009 a thyfodd i fod yn gystadleuaeth gyfieithu llenyddol bwysig. Bydd yn cynnwys arddangosfa o sawl Ffon yr Her Gyfieithu a roddwyd i enillwyr y gystadleuaeth. Bu’r Gymdeithas yn noddi Ffon yr Her Gyfieithu ers 2011 ac wrth wneud hynny bu’n fraint cael cydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo naddu’r wobr unigryw hon o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.
- Fore dydd Iau am 11am bydd Manon Cadwaladr, Cadeirydd y Gymdeithas, yn sgwrsio â Ben Screen am ei gyfrol Sylfeini Cyfieithu Testun a gyhoeddwyd diwedd 2021 gan Wasg Prifysgol Cymru.
- Yna am 2pm ddydd Iau bydd cyfle i longyfarch Sioned Pugh, Ffion Parrington ac Amy Mason ar ennill gwobr y Gymdeithas i fyfyrwyr mwyaf addawol Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i hyrwyddo’r Dystysgrif hon a ddisgrifiwyd gan y tair fel profiad gwych
Ni fydd gan y Gymdeithas stondin ar faes yr Eisteddfod eleni.
Tasglu cymorth iaith Wcráin y DU
Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y sefydliadau a ddaeth at ei gilydd yn ddiweddar mewn ymateb i’r rhyfel yn Wcráin i ddatgan ein cefnogaeth i ffurfio tasglu cymorth iaith Wcráin y DU.
Y 6 aelod o’r tasglu yw Institute of Translation and Interpreting (ITI), Chartered Institute of Linguists (CIOL), National Register for Public Service Interpreters (NRPSI), Association of Translation Companies (ATC), International Association of Conference Interpreters (AIIC UK & Ireland), a Charity Translators.
Mae’r cymorth ymarferol y mae’r tasglu yn ei gynnig yn cynnwys sicrhau bod templedi Wcreineg-Saesneg ar gyfer y dogfennau sydd eu hangen amlaf ar gyfer ceisiadau fisa ar gael yn rhad ac am ddim, a chynorthwyo cymunedau Wcreineg y DU trwy hwyluso cyfathrebu.
Mae Charity Translators, sefydliad gwirfoddol sy’n cydweithio gyda’r sector elusennol, wedi llunio rhestr o gynlluniau ac adnoddau sydd ar gael er mwyn cefnogi’r rhai sydd wedi’i heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin. Un sy’n gwirfoddoli gyda Charity Translators yw Cari Bottois, myfyriwr ymchwil PhD yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefannau’r partneriaid, ac fe’ch cyfeiriwn chi i dudalen Argyfwng Wcráin ar wefan ITI.
Elan yn ennill ysgoloriaeth y Gymdeithas
I Elan Grug Carter o Minera ger Wrecsam y dyfarnwyd yr ysgoloriaeth y mae’r Gymdeithas yn ei chynnig i un o’r myfyrwyr sy’n dilyn y Cynllun Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae Elan yn dilyn llwybr yr MA yn amser llawn ac mae’n amlwg wrth ei bodd,
‘Rwyf wir yn mwynhau'r cwrs cyfieithu draw yn Aber,’ meddai. ‘Dwi’n teimlo fy mod i wedi dysgu llwyth yn barod ac yn edrych ymlaen at weddill y cwrs.’
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, enillodd Elan radd BA Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd eleni. Mae hefyd yn gwneud gwaith cyfieithu achlysurol i GLlTEM.
Sbardunwyd awydd Elan i fod yn gyfieithydd yn ei harddegau pan oedd yn weinyddes mewn bwyty ger Wrecsam pan sylweddolodd cymaint o siaradwyr Cymraeg oedd yn ymweld â’r bwyty. Yn sgil hynny, penderfynodd gyfieithu’r bwydlenni i gyd i’r Gymraeg er mwyn hybu’r defnydd o’r iaith a chynyddu hyder y cwsmeriaid i ddefnyddio’r Gymraeg. Dywed iddi gael boddhad o wneud hyn a theimlo cryn falchder wrth weld newid yn ymagwedd cwsmeriaid.
Hon yw’r ail flwyddyn i ni gynnig ysgoloriaeth a hynny er mwyn cynorthwyo un myfyriwr yn ei astudiaethau ar ddechrau’r llwybr tuag at yrfa fel cyfieithydd proffesiynol. Ariennir yr ysgoloriaeth o Gronfa Sbarduno’r Gymdeithas.
Adroddiad Blynyddol 2020-21
Mae Adroddiad Blynyddol 2020-21 yn dangos i’r Gymdeithas lwyddo i barhau i ymateb i anghenion ei haelodau a chyflawni’r gwaith beunyddiol o weinyddu, trefnu a rheoli’r Gymdeithas er gwaetha’r cyfyngiadau ond ar lefel llai.
O’r dechrau’n deg, rhoddwyd pwyslais ar gadw mewn cysylltiad â’r aelodau ac ar ddarparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag yr oedd modd ac ymateb yn gadarnhaol i’r amgylchiadau yr oeddem yn byw ynddynt. Roedd heriau cyfieithu ar y pryd o bell yn un o’r rhain. Serch iddi fod yn flwyddyn o ganslo a gohirio, o beidio â chynnal digwyddiadau ac o fethu croesawu aelodau newydd i’n plith, bu’n bosibl trefnu rhai gweithgareddau. Bu’r e-weithdy cyfieithu bach yn boblogaidd.
Y calondid mwyaf oedd na chafodd Covid-19 unrhyw effaith ar deyrngarwch yr aelodau i’r Gymdeithas a pharhaodd nifer yr aelodau’n uchel.
Amrywiol fu effaith Covid-19 ar waith cyfieithwyr, rhai wedi colli gwaith, ond bu llawer yn ddigon prysur. I gyfieithwyr ar y pryd roedd yn newid byd go iawn ac roedd eu proffesiynoldeb wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio i’w ganmol yn fawr iawn.
Wrth nodi ei werthfawrogiad o gyfraniad yr aelodau drwy’r cyfnod ansicr hwn, dywed Huw Tegid Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas, yn yr adroddiad fod hynny’n arwydd o allu arbennig cymaint o’n haelodau i ymateb i sefyllfaoedd newidiol ac addasu eu ffyrdd o weithio. Pwysleisiodd hefyd iddi ddod yn fwyfwy amlwg pa mor bwysig fu rôl cyfieithwyr wrth geisio cyfleu gwybodaeth yn gywir a dealladwy.
Ariannwyd y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.
Englynion i Nia ar ddathlu’r 20!
Ym mis Gorffennaf 2020 dathlodd Nia Wyn Jones, Rheolwr Systemau’r Gymdeithas, garreg filltir nodedig iawn, sef ugain mlynedd o weithio i’r Gymdeithas. Pan ddechreuodd Nia yn ei swydd, hi oedd yr unig un oedd yn amser llawn, Cyfarwyddwr rhan amser oedd Megan Hughes Tomos ar y pryd. Wrth i’r Gymdeithas dyfu cafodd gwmni eraill ohonom yn y swyddfa o fore gwyn tan nos!
Fel y gŵyr pob un sy’n gyfarwydd â’r Gymdeithas, mae Nia wedi chwarae rhan gwbl allweddol yn natblygiad y Gymdeithas yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid y lleiaf o’i gorchwylion niferus yw trefnu’r arholiadau a’r profion CAP a sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn ddi-drafferth ac yn effeithiol. A phwy fydda'n dadlau!
Yn ei gadwyn hyfryd o englynion i ddathlu’r ugain mlynedd, mae Ifan Prys wedi gweu yn gelfydd yr adeiladau a fu’n gartref i’r Gymdeithas ers 2000, sef Aethwy ym Mhrifysgol Bangor; Bryn Menai, ein swyddfa ym Mangor Uchaf o 2001 tan fis Medi 2019; a’r swyddfa bresennol yn Intec, Parc Menai ar gyrion Bangor.
Nia
Mae eleni’n ugain mlynedd: daethost
i Aethwy i eistedd
a rhoi i’r swydd dy oll o’r sedd;
dy faes ar flaen dy fysedd.
Ac am dy waith i’r Gymdeithas, mynaist
ym Mryn Menai’i hurddas;
mor ddi-gwyn dy gymwynas,
un glew wyt a’r gorau glas.
Yna Intec oedd yr antur newydd
Nia, tithau’n brysur,
am mai mwy na phedwar mur
hyn o waith sydd i’w wneuthur!
Aelodaeth ac arholiadau, y ffeils
a’r ffôn a’r galwadau:
Nia rwyt yn sicrhau
y bythol drefn ar bethau.
Rydym yn ddiolchgar i Tonnau, Pwllheli, am drefnu i’r englynion gael eu hysgrifennu’n gain a’u fframio.
Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi ysgrifennu at Microsoft Teams (3 Rhagfyr 2020) yn pwyso arnynt i sicrhau ar fyrder yr ategyn a fydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd wrth ddefnyddio Microsoft Teams.
Yn ein llythyr pwysleisiwyd fod y diffyg hwn wedi arwain at atal siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio’u hiaith mewn cyfarfodydd. I gyfieithwyr ar y pryd mae wedi golygu lleihad sylweddol yn eu hincwm mewn blwyddyn lle mae effaith Covid-19 arnynt yn ariannol wedi bod yn andwyol iawn.
- Os ydych chi angen cyfieithydd ar y pryd sy’n cynnig gwasanaeth CAP o bell neu’n chwilio am gyngor ynghylch hyn, ewch i'r dudalen yn yr adran Cyfieithu ar y pryd ar y wefan hon.