Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cyfieithu ar y pryd o bell

Darparu cyfieithu ar y pryd o bell fu’r datblygiad mwyaf arwyddocaol a welsom yn y byd cyfieithu yn ystod 2020 wrth i gyfarfodydd o gwmpas y bwrdd ddod i ben dros nos yn sgil Covid-19 ac i gyfarfodydd rhithwir gymryd eu lle yr un mor sydyn.

Rydym yn falch o ddweud i nifer dda o Aelodau CAP y Gymdeithas addasu’n gyflym i’r dull newydd a dieithr hwn o ddarparu’r gwasanaeth, gan fagu cryn brofiad mewn amser byr.

I ddod o hyd i Aelodau CAP sy’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o bell, mae is-adran yn y gwasanaeth chwilio am gyfieithydd ar y pryd ar y wefan hon (gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim) a fydd yn hwyluso hyn i drefnwyr cyfarfodydd.

Dewiswch 'Cyfieithydd ar y Pryd', wedyn ‘Iaith’, ac yna dewiswch 'CAP o bell/dros fideo' i greu rhestr o enwau’r cyfieithwyr ar y pryd sy'n cynnig y gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi wedyn fydd cysylltu â’r cyfieithwyr ar y pryd hyn i drafod eich anghenion ac i ddod i gytundeb ynghylch y gwaith.

Cyngor ar gyfer cynnal cyfarfodydd o bell

Mewn ymateb i’r dull newydd hwn o ddarparu cyfieithu ar y pryd, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg y nodyn cyngor, ‘Cynnal cyfarfodydd fideo dwyieithog’ ym mis Mai 2020 er mwyn darparu cyngor a rhoi arweiniad ymarferol i sefydliadau ar sut y gellid parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o safon yn rhithwir. Mae'r ddogfen hon yn atodiad i'r ddogfen gyngor 'Drafftio dwyieithog, cyfieithu a defnyddio'r Gymraeg wyneb yn wyneb' a gyhoeddwyd yn 2019.

Yn 2020 lluniodd Amgueddfa Cymru ganllawiau ymarferol a manwl ar gyfer defnyddio cyfieithydd ar y pryd wrth ddefnyddio ‘Zoom’, canllawiau sy'n cynnig cyfarwyddiadau penodol i bob un sydd ynghlwm wrth gyfarfod 'Zoom'. Er mai at eu defnyddio’n fewnol y lluniwyd y cyfarwyddiadau hyn yn wreiddiol, diolchwn i Amgueddfa Cymru am eu rhannu’n gyhoeddus fel y byddant o gymorth i eraill wrth iddynt gynnal cyfarfodydd dwyieithog o bell.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.