David Bullock
Cwmni DB Cyf.
62 Waterloo Road
Pen-y-lan
Caerdydd
CF23 9BH
02920 486677
07758 358236
cwmnidb@outlook.com
Cwmni DB Cyf.
62 Waterloo Road
Pen-y-lan
Caerdydd
CF23 9BH
02920 486677
07758 358236
cwmnidb@outlook.com
Ar sail PhD mewn Cymraeg a Gwyddeleg yn y Cyfnod Modern, a 40 mlynedd o waith proffesiynol, mae David ymysg y cyfieithwyr mwyaf profiadol yng Nghymru. Bu’n bennaeth Uned Gyfieithu’r Swyddfa Gymreig ac yn ddirprwy bennaeth Gwasanaeth Cyfieithu’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n gyfieithydd annibynnol ers 2001 ac mae ei gleientau’n cynnwys adrannau o Lywodraeth Cymru, adrannau o lywodraeth y Deyrnas Unedig, sefydliadau addysg uwch ac asiantaethau cyfieithu.
Mae David wedi bod yn arholwr ar ran Bwrdd Arholi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae’n cadeirio ei Phwyllgor Aelodaeth a Safonau Proffesiynol. Mae’n aelod o’r Institute of Translation and Interpreting.
Mae David wedi cyfrannu at astudiaethau cyfieithu yn Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Canolfan Addysg Barhaus, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Bu’n arholwr allanol ar gyfer Tystysgrif Cyfieithu Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn 2008-2012.
“Rwy’n ddiolchgar i David am ei holl waith. Mae’n gyfieithydd profiadol a medrus, ac mae ansawdd ei waith yn gyson uchel ac yn gwbl ddibynadwy.”
Dylan Hughes, Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg (Prifysgol Aberystwyth) - 13 Mai 2026
PhD Cymraeg a Gwyddeleg