Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Ymaelodi

Mae gan y Gymdeithas dri chategori o aelodaeth i gyfieithwyr proffesiynol.

Dim ond drwy lwyddo yn un o arholiadau testun neu brawf cyfieithu ar y pryd y Gymdeithas y gellir dod yn aelod ohoni fel Aelod Cyflawn neu Aelod Sylfaenol wrth gyfieithu testun, neu’n Aelod Cyfieithu ar y Pryd.

Y tâl aelodaeth ar hyn o bryd yw £150 i'r holl aelodaeth, ac eithrio Aelodau Sylfaenol yn unig yn 3 blynedd cynta'u haelodaeth sy'n talu £140.

Aelodaeth Gyflawn - Cyfieithu Testun

Mae safon Aelodaeth Gyflawn yn cyfateb i aelodaeth gwbl broffesiynol lle nad oes ar y cyfieithydd angen unrhyw oruchwyliaeth. Disgwylir iddo fedru cyfieithu'n rhugl ac yn gywir, ysgrifennu mewn sawl arddull a chywair yn ôl yr angen a gallu ymdopi ag iaith haniaethol neu dechnegol. Disgwylir iddo hefyd feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.

Ar ôl iddo gwblhau ac adolygu ei gyfieithiadau, ni ddylai fod angen eu diwygio na'u cywiro. Awgrymir i gyfieithydd sydd â thair blynedd o brofiad o gyfieithu'n amser-llawn, neu â phrofiad cyfatebol o gyfieithu'n rhan-amser, ymgeisio am Aelodaeth Gyflawn. Nid oes rhaid bod yn Aelod Sylfaenol cyn ymgeisio.


Aelodaeth Sylfaenol - Cyfieithu Testun

Dyma'r lefel broffesiynol sylfaenol i'r rhai sy'n gwneud gwaith cyfieithu mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac yn trafod meysydd mwy arbenigol o bryd i'w gilydd.

Disgwylir i'r safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor. Disgwylir iddo fedru cyfieithu deunydd darllen cyffredinol yn weddol ddidrafferth. Dylai feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.


Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd

Mae safon Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd yn cyfateb i safon aelodaeth gwbl broffesiynol lle gall yr aelod gyfieithu’n rhugl ac yn gywir o’r Gymraeg i’r Saesneg ac/neu o'r Saesneg i'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd sy’n amrywio o’r tra ffurfiol i’r anffurfiol iawn. Disgwylir iddo feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.

Cyn ystyried sefyll y Prawf CAP i ddod yn Aelod CAP, argymhellwn y dylid meddu ar o leiaf 200 awr o brofiad cyfieithu ar y pryd. Oherwydd fod amgylchiadau gwaith cyfieithwyr ar y pryd yn wahanol a bydd y gofynion arnynt i gyfieithu ar y pryd yn amrywio, nid ydym am bennu cyfnod penodol ar gyfer cyflawni hyn. Gallai rhywun sy’n cyfieithu ar y pryd yn gyson mewn cyfarfodydd gyflawni hyn mewn ychydig o fisoedd; ond gallai gymryd yn hirach i rywun nad yw’n cyfieithu ar y pryd mor aml â hynny neu lle mae llai o alw am gyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd y mae’n bresennol ynddynt. Cyn ymgeisio am Aelodaeth CAP dylai unigolion deimlo’n hyderus wrth arfer y grefft o gyfieithu ar y pryd.


Pwysigrwydd aelodaeth o’r Gymdeithas

Caiff aelodaeth o'r Gymdeithas ei chydnabod gan nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau fel marc ansawdd o allu unigolyn i gyfieithu. Er nad yw aelodaeth o’r Gymdeithas yn gymhwyster fel y cyfryw, mae’n gydnabyddiaeth o broffesiynoldeb cyfieithydd ac yn nod i bob cyfieithydd.

Wrth benodi cyfieithwyr, mae llawer o sefydliadau yn nodi y dylai ymgeiswyr fod yn aelodau o'r Gymdeithas neu am weithio tuag at hynny. Yn yr un modd mae nifer fawr o gomisiynwyr cyfieithu yn ffafrio defnyddio cyfieithwyr sy’n aelodau o gorff proffesiynol fel Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.