Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Yr e-weithdy cyfieithu

Mae’r e-weithdy cyfieithu yn weithdy trwy gyswllt e-bost yn unig. Caiff ei gynnig i'r Gymraeg ac i'r Saesneg, ac ar y lefelau Cyflawn a Sylfaenol ar wahân.

Bwriad yr e-weithdy cyfieithu bach yw cynnig cyfle i gyfieithwyr ymarfer a gwella eu sgiliau cyfieithu yn eu hamser eu hunain, ac o fewn amserlen a strwythur pendant. Caiff dysgwyr sylwadau ar eu cyfieithiad gan diwtor sy’n gyfieithydd profiadol ac yn aelod o Gofrestr Marcwyr Arholiadau Aelodaeth Testun y Gymdeithas.

Yn yr e-weithdy cyfieithu bach:
- byddwch yn cyfieithu un darn yn unig
- cewch wythnos i lunio’ch cyfieithiad
- bydd y darn i’w gyfieithu o’r un hyd a safon â darnau’r arholiad perthnasol
- bydd popeth yn digwydd trwy gyswllt e-bost yn unig

Yr e-weithdy cyfieithu bach: 10 Gorffennaf 2024

Bydd 4 e-weithdy:

- Sylfaenol i'r Gymraeg
- Sylfaenol i'r Saesneg
- Cyflawn i'r Gymraeg
- Cyflawn i'r Saesneg

Ffi am un e-weithdy: £40.00 i aelodau / £45.00 i bawb arall

Y dyddiad olaf i gofrestru fydd dydd Llun, 8 Gorffennaf 2024 cyn 12:00pm.

Nifer cyfyngedig o lefydd felly y cyntaf i'r felin...

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.