Adnoddau > Geiriaduron
Nid geiriadur yw'r ateb i bopeth. Er bod llawer mwy i gyfieithu na geiriaduron (yn groes i'r gred gyffredinol!), maent yn adnodd pwysig i unrhyw gyfieithydd.
Yr hyn sydd yn rhaid ei gofio yw nad y gair cyntaf bob tro yw’r un mwyaf addas, a’i bod yn werth edrych mewn mwy nag un geiriadur pan ydych chi’n chwilio am air. Hyd yn oed pan ydych chi’n gwybod gair, mae'n werth chweil chwilio oherwydd gall sbarduno eich meddwl i ganfod gair neu ymadrodd sydd hyd yn oed yn well. Mae adnoddau fel thesawrws neu restr o synonymau yn amhrisiadwy i arddull da.
Rydym yn cynnwys yma eiriaduron Saesneg-Cymraeg, rhai uniaith, ac ambell i eiriadur arbenigol.
Geiriaduron Cymraeg a Saesneg
Chambers Twentieth Century Dictionary |
Collins English Dictionary |
Geiriadur Gomer i’r Ifanc D.Geraint Lewis, Gwasg Gomer, 1994 |
Geiriadur Prifysgol Cymru Hefyd mae fersiwn o'r geiriadur ar-lein (gweler y ddolen isod) |
Geiriadur Saesneg a Chymraeg: Spurrell’s English – Welsh Dictionary J.Bodvan Annwyl |
Geiriadur Termau/Dictionary of Terms Jac L. Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 1973 |
Geiriadur yr Academi Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones (goln), Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 |
The Oxford English Dictionary |
Y Geiriadur Mawr H.Meurig Evans a W.O. Thomas, Llyfrau’r Dryw a Gwasg Aberystwyth, 1958 |
Y Termiadur Delyth Prys (llyfr a CD), ACCAC, 2006 |
Geiriaduron ar-lein
Rhestr o'r rhai a ddefnyddir gan amlaf: |
Geiriaduron Cymraeg/Ieithoedd Tramor
Geiriadur Almaeneg – Cymraeg / Cymraeg – Almaeneg Wolfgang Greller, Canolfan Astudiaethau Addysg, 1999 |
Geiriadur Cymraeg – Lladin / Lladin – Cymraeg Huw Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru |
Geiriadur Ffrangeg - Cymraeg / Cymraeg – Ffrangeg Meirion Davies, Canolfan Astudiaethau Addysg, 2000 |
Geiriaduron pynciol
Geiriadur Newydd y Gyfraith Robyn Léwis, Gwasg Gomer, 2003 |
Rhestr o Enwau Lleoedd/ Gazetteer of Welsh Place Names Elwyn Davies (gol.), Gwasg Prifysgol Cymru, 1967 |
Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru |
Yr Atlas Cymraeg Newydd CBAC, 1999 |
Rhestrau geiriau personol
Mae rhai cyfieithwyr yn cynnal eu rhestrau eu hunain o eiriau i ychwanegu at eiriaduron. Yma rydym yn cynnig rhestr bersonol Berwyn Prys Jones, ac os ydych chi’n dymuno rhannu eich rhestr chi, cysylltwch â ni, ac mi fyddwn yn ei chynnwys yma hefyd.