Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cyfieithu ar y pryd

Mae cyfieithu ar y pryd (CAP) yn caniatáu i chi drin pawb yn gyfartal trwy roi'r hawl i bob un siarad yn ei ddewis iaith, sydd yn ei dro yn hybu gwell dealltwriaeth rhwng pobol.

Wrth drefnu cyfarfod dylid gwneud yn siŵr y gall pob un sy’n bresennol ynddo ddefnyddio’i ddewis iaith yn gwbl naturiol a rhwydd. Mae hynny’n golygu sicrhau fod y rhai nad ydyn nhw’n medru’r Gymraeg yn gallu deall a dilyn yr hyn a gaiff ei ddweud gan siaradwyr Cymraeg.

Dibynna llwyddiant cyfarfodydd dwyieithog i raddau helaeth ar sgiliau'r cyfieithydd ar y pryd. Cofiwch fod cyfieithu ar y pryd yn sgìl arbenigol a dylech gyflogi cyfieithydd ar y pryd proffesiynol sydd â meistrolaeth gadarn ar y Saesneg a'r Gymraeg fel ei gilydd.

Wrth drefnu cyfarfod:

  • - Gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau gwasanaeth cyfieithydd ar y pryd medrus mewn da bryd
  • - Os yn gyfarfod wyneb yn wyneb, llogwch offer cyfieithu ar y pryd pwrpasol - gall eich cyfieithydd eich cynghori
  • - Cytunwch ar delerau â'r cyfieithydd ar y pryd cyn y cyfarfod
  • - Rhowch gyfarwyddiadau llawn iddo/iddi ynghylch y trefniadau ymarferol
  • - Anfonwch y papurau perthnasol at y cyfieithydd ar y pryd cyn gynted ag y gallwch cyn y cyfarfod
  • - Gofalwch fod y defnyddwyr yn cael cyfarwyddyd ynglŷn â defnyddio'r gwasanaeth CAP.

Gall y cyfieithydd ar y pryd hefyd eich cynghori ar faterion eraill sy'n allweddol i lwyddiant y cyfarfod, e.e. y trefniadau ymlaen llaw a chyfarwyddiadau ynghylch cadeirio cyfarfod dwyieithog lle defnyddir cyfieithu ar y pryd.


I ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd

Defnyddiwch y peiriant chwilio i ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd cymwys yn eich ardal chi.


Ymaelodi fel Aelod Cyfieithu ar y Pryd

Ceir manylion am y Prawf CAP nesaf ar ein tudalen Ymaelodi.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.