Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cyrsiau prifysgolion

Mae Astudiaethau Cyfieithu neu Ieithyddiaeth Ymarferol yn bynciau poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd ac ym mhob math o ieithoedd.

Erbyn hyn, mae nifer o brifysgolion yng Nghymru yn cynnig graddau MA mewn cyfieithu Cymraeg-Saesneg yn ogystal ag mewn ieithoedd eraill.

Gan fod cynnwys a strwythur cyrsiau mewn prifysgolion yn newid drwy'r amser, nid yw’n bosibl inni roi rhestr fanwl yma. Gweler isod restr o brifysgolion yng Nghymru y gwyddom fod ganddynt gyrsiau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i wirio’r wybodaeth.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
MA Cyfieithu Proffesiynol
MA Cyfieithu Llenyddol
MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol - Tystysgrif/Diploma/MA
MA Astudiaethau Cyfieithu
BA Cyfieithu
MA Astudiaethau Cyfieithu
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd
Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru