Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Dod o hyd i gyfieithydd

Croeso i'r unig wasanaeth chwilio am gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymraeg i/o'r Saesneg cydnabyddedig ar sail eu gwaith.

Mae pob un o’r cyfieithwyr a restrir yma yn aelodau cyfredol o’r Gymdeithas. Mae gennym drefn gadarn a theg i atgoffa aelodau i dalu eu tâl aelodaeth.

Mae pob aelod wedi rhoi ei ganiatâd i’w enw gael ei gynnwys ar y gwasanaeth chwilio hwn. Wedi i chi ddod o hyd i gyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, cysylltwch ag ef yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt perthnasol. Cyfrifoldeb pob aelod yw gwirio’r wybodaeth a geir amdano a gwneud yn siŵr ei bod yn gywir a chyfredol. Anogir pob aelod i roi gwybodaeth yn yr adran ‘Proffil personol’.

NODER
Nid yw’r Gymdeithas fel corff, na’i staff cyflogedig, yn cynnig gwasanaeth cyfieithu. Ni all y Gymdeithas fod yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg ar ran unigolion a gomisiynir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth chwilio hwn.