Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Newyddion

Tudalen 4 o 6

29
Meh
2018

Cynllun Iaith Gymraeg GLlTEM yn cydnabod safonau proffesiynol y Gymdeithas

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn falch iawn o weld fod Cynllun Iaith Gymraeg 2018-2021 Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, a gyhoeddwyd yn diweddar, yn cydnabod y berthynas gref sy’n bodoli rhwng y Gymdeithas a GLlTEM. Mae’r Cynllun hefyd yn pwysleisio’r pwysigrwydd y mae GLlTEM yn ei roi ar ddefnyddio aelodau’r Gymdeithas i ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i GLlTEM.

Yn gyntaf, mae GLlTEM wedi derbyn argymhelliad y Gymdeithas, wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Iaith Gymraeg yn gynharach eleni, y dylai’r Cynllun adlewyrchu’n well y trefniadau sy’n bodoli rhwng y Gymdeithas a GLlTEM ynghylch cyfieithu ar y pryd yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd. O ganlyniad, ychwanegwyd paragraff newydd, 5.27 ar dudalen 21, i’r Cynllun, sy’n dweud: ‘Mae cyfieithu ar y pryd mewn gwrandawiadau llys/tribiwnlys yn sgil arbenigol ac fe’i cydnabyddir felly trwy gategori aelodaeth arbenigol gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru’.

Mae trefniadau cadarn ar waith ers 2008 i sicrhau cyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg o ansawdd mewn gwrandawiadau yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd, trefniadau a gryfhawyd ymhellach pan sefydlwyd Maes Arbenigedd Proffesiynol: CAP yn y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn 2016 (a ddatblygwyd mewn partneriaeth â GLlTEM). Yn sgil y trefniadau hyn, dim ond aelodau CAP o’r Gymdeithas sydd hefyd wedi cael y gydnabyddiaeth Maes Arbenigedd Proffesiynol: CAP yn y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd all gael eu galw i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn gwrandawiadau.

Hyd yn hyn, mae 23 o aelodau CAP y Gymdeithas wedi cael y gydnabyddiaeth hon.

Yn ail, mae’r Cynllun yn cadarnhau ymrwymiad GLlTEM i ddefnyddio aelodau’r Gymdeithas wrth ddiwallu unrhyw anghenion cyfieithu na all cyfieithwyr GLlTEM ymgymryd â hwy yn fewnol.

Wrth ymateb i hyn, dywedodd Claire Richards, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru,

‘Mae’n destun balchder mawr i ni yng Nghymdeithas Cyfieithwyr Cymru fod y safonau proffesiynol sy’n cael eu harddel a’u hybu gan y Gymdeithas yn bwysig yn llysoedd a thribiwnlysoedd Cymru.

‘Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i bob un sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith o weinyddu cyfiawnder, ac i’r cyhoedd yn gyffredinol, fod cyfieithwyr ar y pryd cymwys, y gellir ymddiried ynddyn nhw, ar gael i wneud y gwaith.'

28
Meh
2018

Diwygio llywodraeth leol yn cynnig cyfle i sefydlu unedau cyfieithu cryf

Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl, pwysleisiodd y Gymdeithas y byddai diwygio llywodraeth leol yn cynnig cyfle i sefydlu unedau cyfieithu cryf ym mhob awdurdod lleol newydd, unedau ag iddynt strwythur staffio bendant a fydd yn caniatáu meithrin arbenigedd. Ac yn sail i’r cyfan fyddai safonau proffesiynol y Gymdeithas hon.

Roedd ymateb y Gymdeithas i’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig cyfieithu wrth ddatblygu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth Llywodraeth Leol, wrth weithredu Safonau’r Gymraeg, ac wrth anelu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

O fwrw ymlaen â’r cynlluniau sydd yn y Papur Gwyrdd, gobaith y Gymdeithas yw y bydd pob awdurdod newydd yn rhoi bri ar gyfieithu fel crefft o’r dechrau’n deg, ac yn cydnabod statws proffesiynol cyfieithu fel galwedigaeth ac nid fel swydd weinyddol. Trwy roi gwerth ar y Gymraeg fel sgil ynddi’i hun yn y modd hwn, ac arddel yr egwyddorion hyn, bydd yr awdurdodau newydd yn gwneud datganiad cadarnhaol fod y Gymraeg yn greiddiol bwysig i’w dulliau gweithio a’u gweinyddiaeth fewnol.

Roedd ymateb y Gymdeithas yn pwysleisio’r angen i sicrhau:

• y bydd unedau cyfieithu cryf yn yr holl awdurdodau newydd, a fydd yn perthyn i adran y Prif Weithredwr, ac iddynt strwythur staffio pendant.

• y bydd digon o gyfleoedd i gyfieithwyr ddatblygu’n broffesiynol a meithrin arbenigedd.

• y gwneir y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o dechnoleg.

• y bydd offer cyfieithu ar y pryd priodol ar gael ym mhob awdurdod.

• y bydd yr holl awdurdodau newydd yn arddel safonau proffesiynol y Gymdeithas.

Elis Gwyn A Ffon Farddol 2017C
Cyflwyno Ffon 2017
10
Ebr
2018

Cyflwyno’r Ffon Farddol i enillydd Her Gyfieithu 2017

Ein llongyfarchiadau i Sian Cleaver o Drefor, ger Caernarfon, ar ennill Her Gyfieithu 2017.

Gwobr Sian oedd y Ffon Farddol, a gyflwynwyd iddi'n ddiweddar gan Sally Baker, Cyfarwyddwr Wales PEN Cymru, a Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae’r Ffon Farddol hardd a gaiff pob enillydd yn un unigryw. Fe’i crefftwyd gan Elis Gwyn, Llanystumdwy. Noddwyd y Ffon Farddol gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Yn ogystal â’r Ffon Farddol enillodd Sian wobr ariannol o £250 a roddwyd gan Brifysgol Abertawe.

Testun Her Gyfieithu 2017 oedd cyfieithu’r gerdd Twrceg ‘Yaşamaya Dair’ gan Nâzım Hikmet (1902–63), un o feirdd amlycaf Twrci yn yr ugeinfed ganrif. Y beirniad oedd Caroline Stockford.

Trefnir yr Her Gyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru, rhan o Sefydliad Mercator Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â Wales PEN Cymru.

Gallwch ddarllen cyfieithiad buddugol Sian Cleaver ar wefan cylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt, ynghyd ag eglurhad ynghylch sut yr aeth ati i lunio'r cyfieithiad.

Llun Gwobr Goffa Wil 2017
27
Maw
2018

Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2017

Mewn seremoni fach hyfryd ac anffurfiol yn Yr Hen Lyfrgell Caerdydd, ddydd Iau, 15 Mawrth 2018, cyflwynwyd gwobrau’r Gymdeithas i’r ymgeiswyr mwyaf addawol yn arholiadau Sylfaenol y Gymdeithas yn 2017.

Enillydd Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2017 oedd Aled Meredydd Davies.

Mae Aled yn byw ym Mancffosfelen, ger Llanelli. Mae’n gyfarwyddwr ar ei gwmni ei hun, Cwmpasu Cyf, a sefydlodd yn 2016, i ddarparu gwaith i gefnogi dysgu’r Gymraeg yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu. Yn enedigol o Borthaethwy, bu’n ddisgybl yn Ysgol David Hughes Porthaethwy ar yr un pryd ag yr oedd Wil Petherbridge yn athro yno, ond ni chafodd ei ddysgu ganddo. Enillodd radd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd ymlaen i weithio ym maes dysgu’r Gymraeg i Oedolion am chwarter canrif, gan gynnwys cyfnod fel Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin.

Nid Aled yw’r aelod cyntaf o’r teulu i ennill Gwobr Goffa Wil Petherbridge. Ei chwaer, Elin Mared Davies, enillodd y Wobr yn 2010!

Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru er cof am gyn-Ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Caiff ei rhoi i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg.

Llun Gwobr Berwyn 2017
27
Maw
2018

Gwobr Berwyn 2017

Mewn seremoni fach hyfryd ac anffurfiol yn Yr Hen Lyfrgell Caerdydd, ddydd Iau, 15 Mawrth 2018, cyflwynwyd gwobrau’r Gymdeithas i’r ymgeiswyr mwyaf addawol yn arholiadau Sylfaenol y Gymdeithas yn 2017.

Mae Gwobr Berwyn yn wobr newydd a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yn 2017.

Cyflwynir Gwobr Berwyn i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Saesneg. Mae’n anrhydeddu Berwyn Prys Jones a fu’n Gadeirydd y Gymdeithas am fwy na chwarter canrif ac yn arweinydd ysbrydoledig ar fyd cyfieithu yng Nghymru.

Sophie Smith oedd enillydd cyntaf Gwobr Berwyn.

Mae Sophie newydd ddechrau swydd newydd fel cyfieithydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Pan lwyddodd yr yn arholiadau roedd yn gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Abertawe. Mae Sophie’n ferch o Abertawe. Cyn troi’n gyfieithydd proffesiynol flwyddyn a hanner yn ôl, bu’n darlithydd mewn Ffrangeg i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 7 mlynedd. Yn dilyn ennill gradd mewn Ffrangeg ac Astudiaethau Ysbeinaidd o Brifysgol Caeredin, cafodd ysgoloriaeth gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg i wneud doethuriaeth mewn portread rhywedd mewn llenyddiaeth ôl-wladychol Ffrangeg ei hiaith.

25
Hyd
2017

Adroddiad ar weithgareddau 2016-17

Newydd ei gyhoeddi mae'r adroddiad ar weithgareddau’r Gymdeithas yn 2016-17, blwyddyn a welodd y Gymdeithas yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu yn 1976.

Fe welwch yn yr adroddiad i ni barhau i gynnal arholiadau aelodaeth a darparu gwahanol weithgareddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol, parhawyd i gydweithio â’r sector addysg uwch, a pharhawyd i feithrin cysylltiadau a chydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau cyfieithwyr eraill er budd a lles y Gymdeithas ac i godi proffil y proffesiwn/diwydiant cyfieithu yng Nghymru.

Yn ei Rhagair dywed Cadeirydd y Gymdeithas, Claire Richards,

‘Mae llu o aelodau a staff gweithgar ar hyd y blynyddoedd wedi sicrhau parhad a llwyddiant y Gymdeithas. Iddynt hwy mae’r diolch ein bod ni heddiw, fel y dywedwn ar ein gwefan, wrthi’n sicrhau safonau cyfieithu proffesiynol trwy ddatblygu a chryfhau rhagor ar y proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg.’

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y datblygiadau arwyddocaol a welwyd yn hanes y Gymdeithas yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Bydd y rhain yn gosod sylfaen gref a chadarn a fydd yn caniatau i’r Gymdeithas ymateb yn gadarnhaol i heriau strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddyfarnu grant i’r Gymdeithas yn 2016-17.

3
Awst
2017

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Unwaith eto eleni, bydd dydd Iau’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwrnod o ddigwyddiadau cyfieithu.

Cynhelir Darlith Goffa Hedley Gibbard, darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ym Mhabell y Cymdeithasau 1, am hanner dydd.

Bedwyr Rees fydd yn traddodi’r ddarlith eleni. Testun ei ddarlith fydd ‘Trwyn y Balog: enwau o’r Moelfre i’r Leinws’. Bydd yn cynnwys delweddau trawiadol wrth ein tywys ar daith ddifyr ar hyd arfordir Ynys Môn.

Cynhaliwyd darlith flynyddol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru oddi ar 2002 i goffáu Hedley Gibbard (1936-2001) fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad a’i waith arloesol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg yng Nghymru.

Yna am 3.00pm, caiff enillydd cyfieithiad Cymraeg Her Gyfieithu 2017 ei gyhoeddi mewn seremoni yn stondin Prifysgol Aberystwyth.

Yr her eleni oedd cyfieithu’r gerdd Tyrceg YAŞAMAYA DAİR gan Nâzım Hikmet (1902–1963), un o feirdd amlycaf Twrci yn yr ugeinfed ganrif. Y beirniad oedd Caroline Stockford. Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £250 ac yn cael ei anrhydeddu â’r Ffon Farddol.

Wrth noddi’r Ffon Farddol unwaith yn rhagor, mae’n bleser gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo naddu’r wobr unigryw hon o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.

Trefnir yr Her Gyfieithu gan Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru, a chaiff nawdd gan Brifysgol Abertawe.

Bydd cyfleoedd hefyd i gael gwybod rhagor am gynllun ôl-raddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth a Thystysgrif Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol: stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fore dydd Iau rhwng 10.30 a11.30; a stondin Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener, rhwng 12.00pm ac 1.00pm.

Tystysgrif Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd: stondin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant rhwng 11.00am a 3.00pm ddydd Llun.

●   Ni fydd gan y Gymdeithas stondin ar faes yr Eisteddfod eleni.

Elin Jones A Lora Lewis
1
Awst
2017

Cyfle arbennig – diwrnod yn y Senedd

Ein llongyfarchiadau i Lora Lewis, Aelod Unigol Cylch Llŷn, ar ennill y gystadleuaeth cyfieithu i’r oedran 19-25 yn Eisteddfod yr Urdd yn 2017.

Ei gwobr oedd cael treulio diwrnod yng Ngwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe’i croesawyd i’r Senedd gan y Llywydd, Elin Jones. Yn ystod diwrnod llawn o weithgareddau cafodd Lora gyfle i flasu sawl agwedd ar waith y Gwasanaeth, gan gynnwys gweld sut yr eir ati i lunio’r Cofnod, cyflwyniadau i gyfieithu peirianyddol a chyfieithu ar y pryd, a gweithredu’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Mae Lora wedi ysgrifennu blog yn disgrifio’i diwrnod yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Ein llongyfarchiadau hefyd i Morgan Owen, Aelod Unigol Cylch Dwyrain Caerdydd, a ddaeth yn ail, ac Anna Powys, Aelwyd Pantycelyn, oedd yn drydydd.

Mae’r gystadleuaeth cyfieithu yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Urdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol am fod mor barod i gynnig diwrnod o brofiad gwaith i’r enillydd.

Seremoni 2016
1
Awst
2017

Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2016

Mewn seremoni fach hyfryd ac anffurfiol yn ystod cyfarfod diweddar o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas, cyflwynwyd Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2016 i Angharad Eleri Edwards. Daw Angharad o Waunfawr ger Aberystwyth. Mae’n gweithio i Cyfieithu Clir, Caerdydd. Pan enillodd y wobr roedd yn gweithio i Calan, y Bont-faen.

Cyflwynir Gwobr Goffa Wil Petherbridge gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru er cof am gyn-Ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru. Caiff ei rhoi i’r ymgeisydd mwyaf addawol am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg, os bernir fod teilyngdod.

Wrth gyflwyno’r wobr i Angharad, dywedodd Claire Richards, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru,

‘Rydym yn llongyfarch Angharad yn wresog iawn ar ei champ, ac ar yr un pryd yn cofio’n annwyl iawn am gyfaill a chydweithiwr y bu ei golli’n ergyd drom iawn.’

12
Ion
2017

Cystadleuaeth cyfieithu Eisteddfod yr Urdd

Agweddau pobol ifanc tuag at y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd fydd pwnc y gystadleuaeth cyfieithu i’r oedran 19-25 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai eleni.

Bydd gofyn i’r cystadleuwyr gyfieithu darn o ryw 300 gair o hyd o’r Saesneg i’r Gymraeg. Y dyddiad cau yw 1 Mawrth 2017. Catrin Beard fydd y beirniad. Bydd yr enillydd yn cael treulio diwrnod gyda Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad Cenedlaethol.

I gael gwybod rhagor am y gystadleuaeth, a chael copi o’r darn prawf, ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd.

Mae’r gystadleuaeth cyfieithu yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Urdd a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae’r ddau gorff yn ddiolchgar iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol am fod mor barod i gynnig diwrnod o brofiad gwaith i’r enillydd.

Enillydd y gystadleuaeth cyfieithu yn Eisteddfod yr Urdd yn 2016 oedd Ffion Pritchard, un o Aberdâr yn enedigol. Ers 2013 bu’n gyfieithydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiodd Ffion ei gwobr o ddiwrnod yn y Senedd fel ‘profiad gwerth chweil’. I gael gwybod rhagor am y profiad hwnnw ewch i’r stori ar 25 Gorffennaf 2016 isod.

Tudalen 4 o 6