Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Newyddion

Tudalen 3 o 7

23
Tach
2021

Adroddiad Blynyddol 2020-21

Mae Adroddiad Blynyddol 2020-21 yn dangos i’r Gymdeithas lwyddo i barhau i ymateb i anghenion ei haelodau a chyflawni’r gwaith beunyddiol o weinyddu, trefnu a rheoli’r Gymdeithas er gwaetha’r cyfyngiadau ond ar lefel llai.

O’r dechrau’n deg, rhoddwyd pwyslais ar gadw mewn cysylltiad â’r aelodau ac ar ddarparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag yr oedd modd ac ymateb yn gadarnhaol i’r amgylchiadau yr oeddem yn byw ynddynt. Roedd heriau cyfieithu ar y pryd o bell yn un o’r rhain. Serch iddi fod yn flwyddyn o ganslo a gohirio, o beidio â chynnal digwyddiadau ac o fethu croesawu aelodau newydd i’n plith, bu’n bosibl trefnu rhai gweithgareddau. Bu’r e-weithdy cyfieithu bach yn boblogaidd.

Y calondid mwyaf oedd na chafodd Covid-19 unrhyw effaith ar deyrngarwch yr aelodau i’r Gymdeithas a pharhaodd nifer yr aelodau’n uchel.

Amrywiol fu effaith Covid-19 ar waith cyfieithwyr, rhai wedi colli gwaith, ond bu llawer yn ddigon prysur. I gyfieithwyr ar y pryd roedd yn newid byd go iawn ac roedd eu proffesiynoldeb wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio i’w ganmol yn fawr iawn.

Wrth nodi ei werthfawrogiad o gyfraniad yr aelodau drwy’r cyfnod ansicr hwn, dywed Huw Tegid Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas, yn yr adroddiad fod hynny’n arwydd o allu arbennig cymaint o’n haelodau i ymateb i sefyllfaoedd newidiol ac addasu eu ffyrdd o weithio. Pwysleisiodd hefyd iddi ddod yn fwyfwy amlwg pa mor bwysig fu rôl cyfieithwyr wrth geisio cyfleu gwybodaeth yn gywir a dealladwy.

Ariannwyd y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.

17
Rhag
2020

Englynion i Nia ar ddathlu’r 20!

Ym mis Gorffennaf 2020 dathlodd Nia Wyn Jones, Rheolwr Systemau’r Gymdeithas, garreg filltir nodedig iawn, sef ugain mlynedd o weithio i’r Gymdeithas. Pan ddechreuodd Nia yn ei swydd, hi oedd yr unig un oedd yn amser llawn, Cyfarwyddwr rhan amser oedd Megan Hughes Tomos ar y pryd. Wrth i’r Gymdeithas dyfu cafodd gwmni eraill ohonom yn y swyddfa o fore gwyn tan nos!

Fel y gŵyr pob un sy’n gyfarwydd â’r Gymdeithas, mae Nia wedi chwarae rhan gwbl allweddol yn natblygiad y Gymdeithas yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid y lleiaf o’i gorchwylion niferus yw trefnu’r arholiadau a’r profion CAP a sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn ddi-drafferth ac yn effeithiol. A phwy fydda'n dadlau!

Yn ei gadwyn hyfryd o englynion i ddathlu’r ugain mlynedd, mae Ifan Prys wedi gweu yn gelfydd yr adeiladau a fu’n gartref i’r Gymdeithas ers 2000, sef Aethwy ym Mhrifysgol Bangor; Bryn Menai, ein swyddfa ym Mangor Uchaf o 2001 tan fis Medi 2019; a’r swyddfa bresennol yn Intec, Parc Menai ar gyrion Bangor.

Nia

Mae eleni’n ugain mlynedd: daethost
i Aethwy i eistedd
a rhoi i’r swydd dy oll o’r sedd;
dy faes ar flaen dy fysedd.

Ac am dy waith i’r Gymdeithas, mynaist
ym Mryn Menai’i hurddas;
mor ddi-gwyn dy gymwynas,
un glew wyt a’r gorau glas.

Yna Intec oedd yr antur newydd
Nia, tithau’n brysur,
am mai mwy na phedwar mur
hyn o waith sydd i’w wneuthur!

Aelodaeth ac arholiadau, y ffeils
a’r ffôn a’r galwadau:
Nia rwyt yn sicrhau
y bythol drefn ar bethau.

Rydym yn ddiolchgar i Tonnau, Pwllheli, am drefnu i’r englynion gael eu hysgrifennu’n gain a’u fframio.

7
Rhag
2020

Cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi ysgrifennu at Microsoft Teams (3 Rhagfyr 2020) yn pwyso arnynt i sicrhau ar fyrder yr ategyn a fydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd wrth ddefnyddio Microsoft Teams.

Yn ein llythyr pwysleisiwyd fod y diffyg hwn wedi arwain at atal siaradwyr Cymraeg rhag defnyddio’u hiaith mewn cyfarfodydd. I gyfieithwyr ar y pryd mae wedi golygu lleihad sylweddol yn eu hincwm mewn blwyddyn lle mae effaith Covid-19 arnynt yn ariannol wedi bod yn andwyol iawn.

21
Tach
2020

Mari Lisa

Gyda thristwch mawr y clywsom y bu Mari Lisa farw’n sydyn.

Roedd Mari’n un o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas, yn farciwr ac yn diwtor, ac yn un a gyfrannodd yn hael i weithgareddau’r Gymdeithas. Yn ogystal â bod yn gyfieithydd uchel ei pharch, roedd Mari’n nofelydd ac yn fardd. Fe welwn ei cholli’n arw iawn.

Estynnwn, fel Cymdeithas, ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Mari yn eu colled lem.

4
Tach
2020

Adroddiad ar weithgareddau 2019-20

Mae'r adroddiad ar weithgareddau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 2019-20 yn dangos i’r Gymdeithas barhau i gynnal arholiadau aelodaeth a darparu gwahanol weithgareddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol, parhawyd i gydweithio â’r sector addysg uwch, a pharhawyd i feithrin cysylltiadau a chydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau cyfieithwyr eraill er budd a lles y Gymdeithas ac i godi proffil y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru.

Unwaith eto eleni, un peth a roddodd bleser mawr i ni oedd fod nifer aelodau’r Gymdeithas ar 31 Mawrth 2020 yn 411, y nifer uchaf erioed.

Wrth nodi ei werthfawrogiad o gyfraniad yr aelodau, mae Huw Tegid Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas, yn ei Ragair, yn edrych ymlaen yn obeithiol,

‘Beth bynnag a ddaw, gobeithio y byddwn ni i gyd yn cael ein calonogi ein bod ni’n rhan o Gymdeithas o dros bedwar cant o aelodau, pob un â’i ran yn y gwaith o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu fel rhan annatod o fywyd cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a hamdden ein cenedl. Diolch i bob un ohonoch am eich cyfraniad at y gwaith hollbwysig o sicrhau bod modd i ddinasyddion Cymru’r cyfnod Covid barhau i fyw a gweithio drwy’r Gymraeg.’

Caiff Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.

21
Medi
2020

Her Gyfieithu 2020

Enillydd Her Gyfieithu 2020 yw Grug Muse.

Bardd, golygydd ac ymchwilydd yw Grug Muse. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn  Y Stamp. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod,  gan Barddas yn 2017, a chyhoeddwyd ei gwaith yn O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales ac eraill. Mae hi’n un o ddeiliad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2020. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Grug yn ennill gwobr o £200, yn ogystal â Ffon yr Her Gyfieithu, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, am y cyfieithiad gorau i’r Gymraeg.

Wrth noddi Ffon yr Her Gyfieithu unwaith yn rhagor, mae’n bleser gan y Gymdeithas gydnabod gwaith crefftus Elis Gwyn wrth iddo naddu’r wobr unigryw hon o ddarn o goedyn o gyffiniau Llanystumdwy.

Yr her eleni oedd cyfieithu dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd Twrcaidd Zafer Şenocak o’r Almaeneg. Mae Zafer Şenocak yn byw ym Merlin, ac mae wedi dod yn llais blaenllaw yn nhrafodaethau’r Almaen ar amlddiwyllianedd, hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol, ac yn gyfryngwr rhwng diwylliannau Twrcaidd ac Almaeneg.

Daeth 11 ymgais i law beirniad yr Her Gyfieithu, Mererid Hopwood, a dywedodd mai ymgais Grug oedd y “cyfieithiad wnaeth ddal fy nychymyg yn fwy nag un o’r lleill ac a lwyddodd orau i greu’r teimlad o ‘gerdd’.”

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales a Goethe-Institut.

Enillydd y Translation Challenge 2020 yw Eleoma Bodammer.

Cynhelir digwyddiad digidol i ddathlu llwyddiant Grug ac Eleoma ar 30 Medi 2020, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu.

I ddarllen y cerddi buddugol a’r beirniadaethau, ewch i wefan Wales PEN Cymru.

8
Meh
2020

Cyfieithu ar y pryd o bell

Mewn ymateb i’r gofynion newydd ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn ystod y pandemig presennol, rydym wedi ychwanegu is-adran newydd at y dudalen gwasanaeth chwilio am gyfieithydd ar y pryd ar ein gwefan a fydd yn caniatáu i bobl ddod o hyd i Aelodau CAP sy’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o bell.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi’r nodyn cyngor, ‘Cynnal cyfarfodydd fideo dwyieithog’. Paratowyd y nodyn cyngor brys hwn er mwyn darparu cyngor brys i sefydliadau yn ystod yr argyfwng byd-eang a achosir gan COVID-19. Bwriad y nodyn yw rhoi arweiniad ymarferol i sefydliadau ar sut y gellid parhau i gynnig gwasanaethau dwyieithog o safon yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Mae'r ddogfen hon yn atodiad i'r ddogfen gyngor ‘Drafftio dwyieithog, cyfieithu a defnyddio’r Gymraeg wyneb yn wyneb' a gyhoeddwyd yn 2019.

Mae’r nodyn cyngor yn cyfeirio at y canllawiau er mwyn defnyddio cyfieithydd ar y pryd wrth ddefnyddio’r platfform ‘Zoom’ a luniwyd gan Amgueddfa Cymru. Mae’r canllawiau ymarferol a manwl hyn yn cynnig cyfarwyddiadau penodol i bob un sydd ynghlwm wrth gyfarfod. Er mai at eu defnyddio’n fewnol y lluniwyd y cyfarwyddiadau hyn yn wreiddiol, diolchwn i Amgueddfa Cymru am eu rhannu’n gyhoeddus fel y byddant o gymorth i eraill wrth iddynt gynnal cyfarfodydd dwyieithog o bell.

26
Maw
2020

Neges i Ganghellor y Trysorlys yn gofyn am becyn cymorth i'r hunangyflogedig

Anfonwyd y neges hon at Ganghellor y Trysorlys ar 25 Mawrth 2020 dan y pennawd ‘Support self-employed translators and interpreters’:

Yn gyntaf oll, gobeithio eich bod chi, eich teulu a'ch staff yn iach ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Rwy'n ysgrifennu atoch ar ran aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ymhlith ein 410 o aelodau, mae rhyw 43% yn hunangyflogedig.

Yn sgil mesurau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws rhoddwyd y gorau ar unwaith i gyfarfodydd ac mae hynny wedi arwain at ganslo aseiniadau a cholli incwm i gyfieithwyr ar y pryd hunangyflogedig. Mae gwaith ysgrifenedig i gyfieithwyr hunangyflogedig hefyd yn cyflym ddirwyn i ben.

Er ein bod yn croesawu'r mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi busnesau bach a chanolig yn yr argyfwng hwn, mae pandemig y coronafeirws yn peri bygythiad sydd heb ei weld o’r blaen i fywoliaeth yr aelodau hunangyflogedig hyn gan nad yw’r mesurau hyn i gynorthwyo'r sector busnes yn ymdrin â nhw. Maent yn wynebu dyfodol ansicr a distryw ariannol o bosibl. Ar ben hynny, nid ydynt yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol am unrhyw amser a dreulir yn hunanynysu.

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y Cynllun Diogelu Swyddi Coronafeirws i gynnwys gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd, er mwyn i gyfieithwyr hunangyflogedig hefyd elwa ar drefniadau a allai dalu 80% o'u henillion am eu bod yn methu gweithio bellach. Byddai ffurflenni treth diweddar yn ffordd effeithiol o asesu pwy sy’n gymwys.

Mae'n annheg bod pobl gyflogedig yn cael eu hamddiffyn gan fesurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond bod pobl hunangyflogedig wedi’u hanwybyddu. Mae'n hanfodol bod y mesurau cymorth i’r sector busnes yn cael eu hymestyn i gynnwys a diogelu'r hunangyflogedig, a hynny ar fyrder.

10
Rhag
2019

Adroddiad ar weithgareddau 2018-19

Mae'r adroddiad ar weithgareddau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 2018-19 yn dangos i’r Gymdeithas barhau i gynnal arholiadau aelodaeth a darparu gwahanol weithgareddau a chyfleoedd datblygu proffesiynol, parhawyd i gydweithio â’r sector addysg uwch, a pharhawyd i feithrin cysylltiadau a chydweithredu gyda sefydliadau cyhoeddus a chymdeithasau cyfieithwyr eraill er budd a lles y Gymdeithas ac i godi proffil y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, hoffem dynnu’ch sylw at y materion canlynol: y gwnaed newidiadau yn nhrefniadau’r Arholiadau Aelodaeth Testun ar y lefel Gyflawn; y mireiniwyd meini prawf y Prawf CAP; cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o’r cynllun DPP, ‘Balchder Crefft’; ac anerchiad y Prif Weithredwr i Seminar Cymraeg i’r Barnwyr a’r dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Unwaith eto eleni, un peth sy’n rhoi pleser mawr i ni yw fod nifer aelodau’r Gymdeithas ar 31 Mawrth 2019 yn 377, y nifer uchaf erioed. Erbyn heddiw mae’r nifer hwnnw wedi cynyddu i dros 400 o aelodau.

Yn ei Ragair dywed Cadeirydd newydd y Gymdeithas, Huw Tegid Roberts,

‘Mewn cyfnod cynhyrfus yn wleidyddol, lle mae sylw manwl i ystyr amlwg (a chudd) pob gair mewn deunyddiau i sylw’r cyhoedd, mae’n galondid bod corff fel y Gymdeithas yn bodoli er mwyn rhoi sicrwydd i gomisiynwyr cyfieithiadau ynghylch safon gwaith ein haelodau.’

Caiff Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth hon.

2
Medi
2019

Symud i swyddfa newydd

Mae’r Gymdeithas yn symud i swyddfa newydd!

Ar 17 Medi 2019 byddwn yn symud i swyddfa yn adeilad Intec ym Mharc Menai ar gyrion Bangor. Cyngor Gwynedd yw perchennog yr adeilad.

Rydym yn gorfod symud oherwydd fod ein landlord, Addysg Oedolion Cymru, yn ailstrwythuro yn y rhan hon o Gymru ac angen ein swyddfa ar gyfer ei staff.

Cyfeiriad y swyddfa newydd yw: Uned F5, Intec, Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor LL57 4FG.

Ni fydd rhif ffôn y Gymdeithas na’r cyfeiriadau e-bost yn newid o ganlyniad i’r symud.

Noder:

  • Bydd y symud yn amharu ar waith y swyddfa ddydd Mawrth a dydd Mercher, 17-18 Medi 2019. Byddwn wedi cael trefn ar bethau erbyn bore dydd Iau, 19 Medi 2019.
  • Gofynnwn yn garedig i chi beidio â’n ffonio ddydd Mawrth na dydd Mercher, 17-18 Medi 2019. Fe allwch chi parhau i e-bostio’r swyddfa yn ystod y cyfnod hwn, ond ni chewch ateb cyn dydd Iau, 19 Medi 2019.
  • Ni fydd y symud yn amharu dim ar drefniadau’r Arholiadau Aelodaeth Testun a gaiff eu cynnal ar 5 Hydref 2019.

Tudalen 3 o 7