Prysg
14 St Andrews Crescent
Caerdydd
CF10 3DD
029 2130 3949
post@prysg.cymru
www.prysg.cymru
Prysg yw un o brif gwmnïau cyfieithu Cymraeg/Saesneg Cymru a sefydlwyd yn 1989 i gynnig gwasanaethau cyfieithu, adolygu, golygu a phrawfddarllen i ystod eang o gleientiaid. Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi meithrin enw da yn y diwydiant sy’n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad pob aelod o staff. Mae’r cwmni yn falch iawn o fod yn un o’r cwmnïau cyntaf a ddaeth yn aelod corfforaethol (Cwmni Cydnabyddedig erbyn hyn) o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Un o nodweddion unigryw Prysg yw ei fod yn gwneud yr holl waith cyfieithu, adolygu a phrawfddarllen yn fewnol. Mae’r cwmni yn cynhyrchu gwaith sy’n gyson o safon uchel i gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Yn 2006, gwnaeth Prysg droi at y dechnoleg newydd gan addasu ei weithdrefnau i ddefnyddio’r feddalwedd cof Déjà Vu ac ers hynny mae wedi diweddaru’r feddalwedd a bellach yn defnyddio Déjà Vu X3.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar ddolen ein gwefan.
Mae'r aelodau hyn yn gweithio i'r Cwmni Cydnabyddedig hwn:
Siân Eleri Reynolds
Melanie Davies
Heledd Fflur Hughes
Richard Llywelyn Lewis
Lois Dauncey Roberts
Llinos Angharad Thomas
Betsan Williams