Aled Powell
Fron Deg
43 Ffordd Afoneitha
Pen-y-cae
Wrecsam
LL14 2DH
07768884111
cyfieithu@aledpowell.cymru
Fron Deg
43 Ffordd Afoneitha
Pen-y-cae
Wrecsam
LL14 2DH
07768884111
cyfieithu@aledpowell.cymru
O achos cyfuniad fy niddordebau, sgiliau a phrofiadau, mae fy ngwaith cyfieithu mewn gwirionedd yn tueddu i ddiwallu anghenion cleientiaid sydd eisiau isdeitlau ar fideos neu lleoleiddio apiau a meddalwedd i'r Gymraeg.
Isdeitlo - Mae gen i brofiad helaeth o isdeitlo pob math o fideos. Gyda ffactorau fel cyflymderau siarad a darllen, toriadau llinellau, cam-ddweud a chamgymeriadau i'w hystyried, mae creu isdeitlau ar gyfer fideo yn waith gwahanol i gyfieithu testun. Mae sicrhau profiad gwylio hwylus i ddefnyddwyr isdeitlau yn ôl arferion isdeitlo da yn golygu nad yw'r testun ar y sgrin o hyd yn gyfieithiad air am air o'r hyn sy'n cael ei ddweud. Gallaf greu ffeiliau isdeitlau mewn amryw fformatau neu os oes gofynion arddull arbennig gallaf ddychwelyd fideo gyda'r isdeitlau wedi'u llosgi i mewn i'r fideo.
Trawsgrifio - Os oes angen cofnod testun o recordiad sain neu fideo, gallaf gynnig trawsgrifiad i ba bynnag lefelo fanylder sydd ei angen ac ym mha bynnag fformat y mae'r cleient yn ei ddewis.
Lleoleiddio - Rwyf wedi lleoleiddio nifer o apiau i'r Gymraeg a defnyddio fy sgiliau codio i greu JavaScript sy'n adeiladu brawddegau cywir o destunau neu glipiau sain, megis cyfarwyddiadau testun a llais yn y Gymraeg. Rwy'n ymdrechu i ddefnyddio'r meddalwedd dw i'n ei leoleiddio er mwyn sicrhau bod termau yn briodol nid yn unig o ran ystyr, ond o ran gosodiad, hyd, arddull a chysondeb.
Cyfieithu ar y pryd - Wrth weithio tuag at gymhwyso, rwy'n derbyn gwaith cyfieithu ar y pryd, ac rwyf yn fwyaf cyfforddus ym meysydd addysg, llywodraeth leol, gwleidyddiaeth, a'r trydydd sector.