Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Profiad Gwaith Cyfieithu

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn hapus i drefnu profiad gwaith ar ran myfyrwyr neu ddisgyblion sydd â diddordeb mewn cael blas ar y grefft o gyfieithu. 

Mae croeso i unigolion, ysgolion a phrifysgolion gysylltu â'r Gymdeithas i rannu manylion megis dyddiadau, lleoliad, disgwyliadau a maes diddordeb. Ar sail yr wybodaeth hon, gallwn drefnu profiad pwrpasol, cysylltu â sefydliadau neu gwmnïau addas, a chefnogi’r myfyrwyr drwy gydol y broses er mwyn sicrhau profiad gwerthfawr ac ystyrlon sy’n rhoi cipolwg realistig ar y proffesiwn cyfieithu.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.