Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i gydweithio ag ysgolion er mwyn cyflwyno cyfieithu i ddisgyblion a dangos iddynt pa mor greadigol, amrywiol a chyffrous yw’r grefft.
Rydym yn credu ei bod yn bwysig buddsoddi yn ein hieuenctid a chodi ymwybyddiaeth o gyfieithu fel gyrfa bosibl. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ysgolion, gan gynnwys sesiynau a gweithdai cyfieithu, ymweld â ffeiriau gyrfaoedd a threfnu profiadau gwaith.
Drwy ein gwaith gydag ysgolion, ein nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar gyfieithu eu hunain, datblygu eu sgiliau iaith a chreadigol, a chael cipolwg ar fywyd a gwaith cyfieithydd proffesiynol.
Os hoffech gydweithio â ni neu drefnu sesiwn yn eich ysgol, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.