Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Crefft yw cyfieithu. A phobl arbennig iawn yw cyfieithwyr.

Mae cyfieithu da a chywir yn waith arbenigol. Crefft yw hi. Mae angen sgiliau penodol, yn ogystal â phrofiad a chyfle i ddatblygu yn y gwaith, ac mae angen mireinio’r grefft honno os am allu cynhyrchu gwaith o safon uchel.

Dyna pam mae'n bwysig eich bod yn ymddiried eich gwaith cyfieithu i aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Wrth wneud hynny, gallwch fod yn hyderus y cewch waith o safon, safon sydd i’w gweld ar draws y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru, a safon sy’n cael ei chydnabod fwyfwy gan sefydliadau cyhoeddus, mudiadau yn y trydydd sector, a chwmnïau yn y sector preifat.

Mae'n bwysig eich bod chi'n ystyried yr angen am gyfieithydd yn gynnar iawn yn eich amserlen, boed yr amserlen honno'n un ar gyfer cyhoeddi dogfen neu wrth drefnu cyfarfod. Cewch gyngor ynghylch comisiynu cyfieithydd ar y wefan hon.

Mae ymddygiad proffesiynol yn bwysig i’r Gymdeithas. Wrth ymaelodi â’r Gymdeithas mae pob aelod yn ymrwymo i’n Cod Ymddygiad Proffesiynol, ac mae trefn gwyno ynghlwm â hynny.

Anogir pob aelod i roi sylw ac amser i’w ddatblygiad proffesiynol. Wrth gymryd Datblygu Proffesiynol Parhaus o ddifri, ac ymdrechu i sicrhau gwelliant parhaus, mae pawb ar eu hennill – yr aelod, y cyflogwr, y cwsmer, a’r Gymdeithas.

I ddod yn aelod o'r Gymdeithas rhaid llwyddo yn ei threfn arholi, naill ai yn yr arholiadau aelodaeth neu’r Prawf CAP. Mae’r nifer cynyddol sy’n sefyll arholiadau’r Gymdeithas (ac yn llwyddo ynddynt) yn dangos bod y safon sy’n angenrheidiol i gynnal y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru yn cael ei chydnabod a’i pharchu.

Wrth ddewis aelodau o’r Gymdeithas i wneud eich cyfieithiad, bydd y cyfieithiad hwnnw’n arddangos hanfodion cyfieithu da. Bydd y cyfieithydd yn anelu at greu cyfieithiad sy’n cyfleu ystyr y gwreiddiol yn gywir, ond nid yn slafaidd. Bydd yr arddull yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged, defnyddir y cywair priodol, bydd y mynegiant yn argyhoeddi yn yr iaith darged, a defnyddir iaith gywir sy’n llifo, gan beri i’r darllenydd/gwrandäwr dybio mai dyna’r iaith wreiddiol.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.