Cynigir yr Ymarfer CAP yn y ddau gyfeiriad, i’r Saesneg ac i’r Gymraeg.
Cynhelir yr Ymarfer CAP o bell trwy Zoom, gyda’r ochr dechnegol dan reolaeth CTV Sound Studios, Caerdydd. Golyga hyn y cewch gyfle i ymgyfarwyddo ag amgylchiadau a threfniadau’r Prawf CAP ei hun.
Rydym yn annog ac yn cynghori cyfieithwyr ar y pryd sydd am sefyll y Prawf CAP i fanteisio ar y cyfle hwn yn gyntaf er mwyn paratoi’n drylwyr ar gyfer y Prawf CAP. Er y bydd gan gyfieithwyr ar y pryd brofiad o gyfieithu ar y pryd trwy Zoom, mae amgylchiadau’r Prawf CAP yn wahanol i’r rhain. Wedi dweud hynny, does dim rheidrwydd arnoch i wneud yr Ymarfer CAP, ond gallai fod o fantais i chi er mwyn deall y gofynion technegol.
Ymysg y manteision eraill o wneud yr Ymarfer CAP:
- cewch gyfle i wrando arnoch chi’ch hun yn cyfieithu ar y pryd, peth prin wrth gyfieithu ar y pryd, ac elfen werthfawr o’r hyfforddiant.
- bydd gennych well syniad o’ch cryfderau a’ch gwendidau fel cyfieithydd ar y pryd, ac wedi cael arweiniad i’r elfennau ar y grefft y gallwch eu gwella.
- gallwch benderfynu a ydych chi’n barod i sefyll Prawf CAP y Gymdeithas.