Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cysylltiadau

Mae cynnal a datblygu perthynas y Gymdeithas â sefydliadau ac â chyrff oddi mewn a thu hwnt i'r byd cyfieithu yn bwysig iawn.

Ffurfiolwyd y bartneriaeth rhwng y Gymdeithas a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pan lofnododd y ddau gorff Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, 2014. Ei ddiben yw cadarnhau'r egwyddorion a'r meysydd cydweithio rhwng y Gymdeithas a'r Coleg ar faterion yn ymwneud â chyfieithu.

Mae'r Gymdeithas yn aelod swyddogol o'r Fédération Internationale des Traducteurs (FIT), sef y corff rhyngwladol o gymdeithasau cyfieithu proffesiynol sy'n hyrwyddo buddiannau cyfieithwyr a chyfieithu. Mae ganddi berthynas â chymdeithasau, cyrff a sefydliadau eraill yn y byd cyfieithu, yn eu plith: Institute of Translation and Interpreting, Chartered Institute of Linguists, National Register of Public Service Interpreters, cyfarwyddiaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Gymdeithas yn cynnal perthynas â chyrff, mudiadau a sefydliadau Cymreig. Mae'n aelod o Grŵp Hyrwyddo'r Gymraeg, fforwm drafod i sefydliadau sy'n gweithredu ym maes cynllunio ieithyddol ac a gaiff ei gadeirio gan gynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. Mae'r Gymdeithas hefyd yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Mantell Gwynedd, Dathlu'r Gymraeg, a Dyfodol i'r Iaith.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.