Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Headshot NH

Nerys Hurford

Nerys Hurford Cyf.
8 Clos Llewelyn
Creigiau
Caerdydd
CF15 9JR

Aelodaeth
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Gymraeg
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Saesneg
  • Aelod Cyfieithu ar y Pryd - i'r Saesneg
  • Aelod Cyfieithu ar y Pryd - i'r Gymraeg
Proffil

Hanes Cyflogaeth

Rhag 2008 - Cyfarwyddwr Nerys Hurford Cyfyngedig. Wedi penderfynu sefydlu cwmni cyfyngedig preifat i atgyfnerthu carfan fy nghleientiaid ymhellach a’r enw da a sefydlwyd gennyf dros nifer o flynyddoedd. Lleolir y busnes yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymraeg < > Saesneg i amrywiol gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Darperir gwasanaeth ymgynghori mewn perthynas â gofynion statudol a gofynion arfer gorau mewn perthynas â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn fwy diweddar, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

2003 - 2008 Cyfieithydd hunangyflogedig yn darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i gleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Gwasanaethau fel yr uchod.

2000 – 2003 Pennaeth Cyfieithu ar y Pryd: Trosol Cyf, Caerdydd
Rhedeg adran Cyfieithu ar y Pryd. Ymhlith fy nyletswyddau roedd cydlynu tîm o gyfieithwyr ar y pryd ar draws Cymru mewn digwyddiadau lle roedd angen cyfieithu ar y pryd, ymgynghori iaith, cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd, cynadleddau, gwrandawiadau a thribiwnlysoedd. Darparwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd byw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar deledu digidol. Darparwyd gwaith cyfieithu, golygu, prawfddarllen Saesneg < > Cymraeg.

1997 – 2000 Cyfieithydd / Cydlynydd Cyfieithu ar y Pryd: Prysg, Caerdydd
Ymunais â Prysg yn syth ar ôl graddio a dechrau fy ngyrfa ym maes cyfieithu. Ymhlith fy nyletswyddau roedd cyfieithu llythyrau, adroddiadau blynyddol, datganiadau i’r wasg, cynlluniau strategol a chorfforaethol, cyhoeddiadau i’r Llywodraeth. Hefyd darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i amrywiaeth eang o gleientiaid ar draws pob sector.

Addysg a Chymwysterau

1993 – 1997 Prifysgol Cymru, Abertawe
BA Cydanrhydedd Cymraeg a Ffrangeg (gan gynnwys 3edd flwyddyn yn addysgu Saesneg yn Ffrainc, 1995-1996). Dosbarthiad 2(i).

Cleientiaid Presennol

Cyngor Dinas Caerdydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Undeb ASCL, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Prifysgol Sheffield Hallam, ICF Consulting, Old Bell 3, Cyngor y Gweithlu Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr. Mae aseiniadau blaenorol wedi cynnwys darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd sawl gwaith mewn cynadleddau rhyngwladol ym Mrwsel a Chaerdydd, yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ac mewn cyfarfod o Gabinet y DU yng Nghaerdydd.

Aelodaeth Sefydliadau Proffesiynol / Gwybodaeth Arall

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru - Aelodaeth Gyflawn, wedi llwyddo yn y papurau arholi Cymraeg < > Saesneg.
Cyn-aelod sylfaenol Panel Asesu Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn gysylltiedig ag asesu a sicrhau ansawdd cyfieithwyr ar y pryd yng Nghymru.
Cydnabyddiaeth Maes Arbenigedd Proffesiynol – Cyfieithu ar y Pryd am waith yn y llysoedd. Dyfarnwyd ym mis Ebrill 2016 gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Aelod o restr cyfieithwyr cymeradwy Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.
Tîm o gyfieithwyr proffesiynol a dibynadwy ar gael i is-gontractio hefyd.
Polisïau yswiriant indemniad proffesiynol ac atebolrwydd cyhoeddus llawn yn eu lle.
Nifer fawr o glustffonau cyfieithu ar y pryd ar gael i hwyluso cynadleddau a digwyddiadau mawr.

Sgiliau

Sgiliau teipio, prawfddarllen a phrosesu geiriau cadarn, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, profiad o fentora a hyfforddi eraill. Medrus iawn wrth fireinio defnydd iaith yn ôl cynulleidfa a chywair. Dawn ieithyddol grefftus.
Ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cywir, prydlon a hyblyg.
Profiad dros 20 mlynedd.
Cyfieithu ar y Pryd o bell - Zoom / Skype for Business / Teams hefyd ar gael.
Hyfforddiant wedi'i ddilyn ar lwyfannau KUDO ac Interactio
Cwrs Trosleisio wedi'i gwblhau Hydref 2018


Darperir geirdaon ar gais. Ymhlith y tystlythyrau diweddar mae’r canlynol:

Dear Sir/Madam

Nerys Hurford Cyf/Ltd, Interpretation and Translation Services, 8 Clos Llewelyn, Creigiau, Cardiff, CF15 9JR

The WLGA engages Nerys Hurford to undertake Simultaneous Welsh Translation Services for our politicial meetings, conferences and events.

Nerys undertakes this work to a very high standard, and is meticulous in her preparation. Her simultaneous Welsh translation is exceptional as she is able to put inflection into her translation which helps convey the speakers’ meaning; a monotone delivery is very hard to listen to for extended periods, and I am very pleased to confirm that this is never an issue at our meetings.

In conclusion, I am very happy to recommend Nerys Hurford Cyf/Ltd Interpretation and Translation Services.

Yours sincerely

Susan Perkins
Rheolwr Gwasanaethau Gweithredu a Democrataidd
Executive and Democratic Services Manager

Geirda Personol gan Simon Williams, Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf:

“Nerys has acted as a simultaneous Welsh-English translator to the governing body of Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf for the l three-year period that I have been a Parent Governor. Nerys’ skills as a translator are exceptional – highly accurate and with an imperceptible time lag between speaker and translation, in an environment where there is a lot of technical language. I have worked with several other translators during my professional life, and Nerys is by far the best. Nerys also has a very pleasant manner and is very easy to work with.”

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

‘ Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg mae Nerys Hurford wedi fy nghyfieithu ar lafar degau o weithiau : mewn pwyllgorau mewnol; yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Dethol yn San Steffan; wrth areithio a chyflwyno mewn cynadleddau bach a mawr. Rwyf hefyd wedi ei gweld yn cyfieithu yn y Llys Cyfraith Gweinyddol.

Mae Nerys yn anhygoel o abl, deallus a naturiol wrth gyfieithu; mae ei phresenoldeb hi yn cynnig sicrwydd i mi fel siaradwr ymhob sefyllfa.

Rwyf yn fwy na hapus i gynnig unrhyw wybodaeth ychwanegol fydd angen Diolch Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg’


Cymwysterau

BA Cymraeg/Ffrangeg, Prifysgol Abertawe, 1997. 2(i)