Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. Hi yw'r unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, p'un a ydynt yn gyfieithwyr testun ynteu'n gyfieithwyr ar y pryd.
Os ydych yn gyfieithydd neu am fod yn gyfieithydd, cewch wybodaeth yma am holl weithgareddau'r Gymdeithas, gwybodaeth ynghylch datblygu'ch gyrfa, cronfa o adnoddau, a sut i ymaelodi â'r Gymdeithas.
Os ydych am ddod o hyd i gyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd, yma mae'r unig restr o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymraeg/Saesneg cymwys, ynghyd â gwybodaeth amdanynt.