Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol. Hi yw'r unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o'r Saesneg, p'un a ydynt yn gyfieithwyr testun ynteu'n gyfieithwyr ar y pryd.

MAE CYFIEITHWYR YN BOBL ARBENNIG IAWN!

Mae cyfieithu da a chywir, p’un ai’n ysgrifenedig neu’n llafar, yn waith arbenigol. Crefft yw hi. Mae angen sgiliau penodol, yn ogystal â phrofiad a chyfle i ddatblygu yn y gwaith, ac i fireinio’r grefft honno os am allu cynhyrchu gwaith o safon uchel. Nid yw’r gallu i siarad dwy iaith yn gwneud rhywun yn gyfieithydd nac yn gyfieithydd ar y pryd.

Mae pob un a restrir ar y wefan hon yn aelodau cyfredol o’r Gymdeithas. Maent wedi dangos y lefel briodol o allu proffesiynol trwy lwyddo yn nhrefn arholi’r Gymdeithas, sef yr unig ffordd i gael aelodaeth.

Sut i Ymaelodi?

Dim ond drwy lwyddo yn un o arholiadau testun neu brawf cyfieithu ar y pryd y Gymdeithas y gellir dod yn aelod ohoni fel Aelod Cyflawn neu Aelod Sylfaenol wrth gyfieithu testun, neu’n Aelod Cyfieithu ar y Pryd.

Caiff aelodaeth o'r Gymdeithas ei chydnabod gan nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau fel marc ansawdd o allu unigolyn i gyfieithu. Er nad yw aelodaeth o’r Gymdeithas yn gymhwyster fel y cyfryw, mae’n gydnabyddiaeth o broffesiynoldeb cyfieithydd ac yn nod i bob cyfieithydd.

Wrth benodi cyfieithwyr, mae llawer o sefydliadau yn nodi y dylai ymgeiswyr fod yn aelodau o'r Gymdeithas neu am weithio tuag at hynny. Yn yr un modd mae nifer fawr o gomisiynwyr cyfieithu yn ffafrio defnyddio cyfieithwyr sy’n aelodau o gorff proffesiynol fel Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae gan y Gymdeithas dri chategori o aelodaeth i gyfieithwyr proffesiynol.

Y tâl aelodaeth ar hyn o bryd yw £150 i'r holl aelodaeth, ac eithrio Aelodau Sylfaenol yn unig yn 3 blynedd cynta'u haelodaeth sy'n talu £140.

Mae’r galw am gyfieithwyr da a medrus yn parhau. Gall y Gymdeithas eich helpu i wella’ch hun fel cyfieithydd/cyfieithydd ar y pryd beth bynnag fo’ch profiad.

Mae'r Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd datblygu proffesiynol. Cynigiwn gyfleoedd hyfforddi i gyfieithwyr ar bob lefel a phrofiad. Mae ei weithgareddau datblygu proffesiynol yn agored i bawb a heb eu cyfyngu i'n aelodau'n unig.

Mae’r Gymdeithas yn annog a chefnogi y rhai hynny sydd am ddilyn gyrfa yn y byd cyfieithu. Gallwch gofrestru yng nghategori’r Darpar Aelod; neu chwilio am gwrs ôl-raddedig mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd neu dilyn prentisiaeth.