Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG <> SAESNEG

Categorïau cyswllt

Mae’r Gymdeithas yn rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau cyfieithu ac i fyfyrwyr.


Cwmni Cydnabyddedig

Mae categori’r Cwmni Cydnabyddedig yn agored i gwmnïau cyfieithu preifat sy'n gweithredu ym maes cyfieithu Cymraeg<>Saesneg ers o leiaf tair blynedd. Rhaid i'r cwmni gyflogi o leiaf tri chyfieithydd Cymraeg<>Saesneg fel aelodau staff craidd. Rhaid i o leiaf traean o'r staff craidd fod yn aelodau Cyflawn a/neu'n aelodau CAP o'r Gymdeithas. Diffinnir staff craidd fel gweithwyr i'r cwmni – sef perchnogion, cyfarwyddwyr a gweithwyr cyflogedig – sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwneud gwaith cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, prawfddarllen neu olygu.

Mae aelodaeth unigol o'r Gymdeithas yn greiddiol i gael cydnabyddiaeth fel Cwmni Cydnabyddedig. Disgwylir i bob cyfieithydd a gyflogir gan y cwmni fod yn aelod o'r Gymdeithas neu fod yn gweithio tuag at hynny.

Rhaid i gwmni sy'n chwennych y gydnabyddiaeth fodloni nifer o feini prawf a chyflwyno tystiolaeth ddogfennol.


Myfyriwr Cyswllt

Bwriad cynnig cydnabyddiaeth fel Myfyriwr Cyswllt yw annog a chefnogi myfyriwr sydd â'i fryd ar ddilyn gyrfa fel cyfieithydd. Caiff y Myfyriwr Cyswllt elwa ar rwydweithiau, cynghorion a rhai o weithgareddau'r Gymdeithas, gan gynnwys gweithdai ac arholiadau am bris gostyngol. Nid yw bod yn Fyfyriwr Cyswllt yn golygu bod yn aelod o’r Gymdeithas, ac ni chodir tâl.

Mae cydnabyddiaeth fel Myfyriwr Cyswllt ar gael i:

  • unrhyw un sy'n dilyn cwrs Cyfieithu neu Gyfieithu ar y Pryd a fydd yn arwain at gymhwyster ôl-raddedig, boed hynny drwy astudio'n amser-llawn neu'n rhan amser.
  • unrhyw un sy'n dilyn cwrs israddedig mewn Cyfieithu neu Gyfieithu ar y Pryd (a all fod yn radd lawn neu'n un gyfun), neu sy'n astudio modiwl Cyfieithu ar lefel 5 neu 6, ac y mae ganddo ddiddordeb mewn dilyn gyrfa fel cyfieithydd.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.