Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Lindsey Jones

Trosol
Sophia House
28 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Aelodaeth
  • Aelod Cyflawn - cyfieithu i'r Gymraeg
  • Aelod Sylfaenol - cyfieithu i'r Saesneg
Proffil

Ar ôl ennill gradd mewn Cymraeg o Brifysgol Caerdydd ym 1998, cefais fy swydd gyntaf ym maes cyfieithu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Yn ystod yr wyth mlynedd y bûm yn gweithio yno, cefais brofiad amhrisiadwy o gyfieithu amrywiaeth eang o ddeunyddiau i holl adrannau’r Cyngor, yn ogystal â dealltwriaeth o weithrediad llywodraeth leol. Wedi hynny, symudais ymlaen i swydd Uwch Gyfieithydd gyda chwmni Calan yn y Bont-faen, lle y bûm am bum mlynedd. Roedd yn braf cael profi gofynion gwahanol y sector preifat, yn enwedig mewn lleoliad mor ddymunol! Rwyf bellach yn Uwch Gyfieithydd / Golygydd gyda chwmni Trosol yng Nghaerdydd, gan gyfieithu deunydd i ystod eang o wahanol gleientiaid yn amrywio o asiantaethau’r llywodraeth i gwmnïau bach ac elusennau. Rwyf wedi bod yn ffodus ar hyd fy ngyrfa i weithio gyda thimau cyfeillgar, ymroddedig a phroffesiynol sydd wastad yn barod iawn eu cymwynas; nodweddion sy'n amlwg ymhlith gweithwyr yn y maes hwn drwyddo draw.

Cymwysterau

BA Cymraeg o Brifysgol Caerdydd ym 1998