Ymaelodi > Sut i ymaelodi
Dim ond drwy lwyddo yn un o arholiadau testun neu brawf gyfieithu ar y pryd y Gymdeithas y gellir dod yn aelod ohoni.
Ceir syniad o ofynion mynediad aelodaeth isod.
Aelodaeth Gyflawn - Cyfieithu Testun
Dim ond drwy lwyddo yn yr arholiad Cyflawn y gellir dod yn Aelod Cyflawn o'r Gymdeithas.*
Cynhelir dau arholiad 2 awr a 5 munud yr un ar ddiwrnod yr arholiad:
PAPUR 1 - cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg (dau ddarn o ryw 300 gair yr un)
PAPUR 2 - cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg (dau ddarn o ryw 300 gair yr un)
Bydd pob ymgeisydd ar y lefel Gyflawn yn gorfod cyfieithu darn o ryw 300 gair yn ystod yr wythnos y cynhelir yr arholiadau ynddi. Rhoddir tridiau i’r ymgeiswyr gyfieithu’r darn hwn yn eu hamser eu hunain.
Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Gyflawn yn dangos fod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb.
Aelodaeth Sylfaenol - Cyfieithu Testun
Dim ond drwy lwyddo yn yr arholiad Sylfaenol y gellir dod yn Aelod Sylfaenol o'r Gymdeithas.*
Cynhelir dau arholiad 2 awr a 5 munud yr un ar ddiwrnod yr arholiad:
PAPUR 1 - cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg (dau ddarn o ryw 250 gair yr un)
PAPUR 2 - cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg (dau ddarn o ryw 250 gair yr un)
Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Sylfaenol yn dangos fod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb.
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd (CAP)
Dim ond drwy lwyddo yn y Prawf CAP y gellir dod yn Aelod CAP o'r Gymdeithas.
Cynhelir y Prawf CAP mewn stiwdios sain proffesiynol a bydd peiriannydd sain yn bresennol. Nod y Prawf CAP yw efelychu, orau y gellir, sefyllfa lle bydd gofyn cyfieithu ar y pryd. Bydd gofyn i’r ymgeisydd gyfieithu dau ddarn oddeutu 10 munud yr un o natur wrthgyferbyniol a gaiff eu dangos ar deledu.
Bydd llwyddo mewn unrhyw Brawf CAP a gynigir gan y Gymdeithas yn dangos fod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran geirfa gyffredinol, geirfa dechnegol, deall, dehongli a chywirdeb, cywair ac idiom, cystrawen, cywair llais, stamina a chyflwyniad technegol.
*Gall ymgeisydd ddewis sefyll un arholiad i un iaith yn unig neu sefyll y ddau arholiad. Nid oes rhaid llwyddo yn y ddau arholiad cyn dod yn Aelod Cyflawn nac yn Aelod Sylfaenol o’r Gymdeithas. Wedi i ymgeisydd llwyddiannus gael ei dderbyn yn aelod, bydd y gofrestr o aelodau yn dangos lefel ei aelodaeth a phob iaith darged y mae wedi llwyddo ynddyn nhw. Dangosir y lefel(au) o aelodaeth yn glir ar y Dystysgrif Aelodaeth a gaiff pob aelod wedi iddo dalu’i dâl aelodaeth am y flwyddyn honno.