Hyfforddiant > Ymarferion cyfieithu i'r Saesneg

Mae'r ymarferion cyfieithu hyn yn gyfle i chi roi cynnig ar gyfieithu rai o gyn bapurau Arholiad Sylfaenol i'r Saesneg y Gymdeithas. Ar ôl paratoi eich cyfieithiad eich hun, gallwch droi at rai o'r sylwadau wnaed ar y gwaith a gyflwynwyd yn yr arholiad.

Cam 1:  Darllenwch y darn Cymraeg yn ofalus gan roi sylw arbennig i'w gywair. Gallwch ei argraffu os yw'n well gennych ddarllen copi papur. 

Cam 2:  Ewch ati i'w gyfieithu gan geisio cyflawni'r dasg mewn awr. Peidiwch â defnyddio adnoddau heblaw'r rhai a fydd ar gael ichi yn yr arholiad - cofiwch na fyddwch, felly, yn gallu defnyddio'r we.

Cam 3:  Golygwch eich cyfieithiad yn ofalus a thrylwyr. Bydd rhai pobl yn teimlo y gallant olygu testun ar bapur yn well na thestun ar sgrin. Cofiwch y cewch argraffu eich cyfieithiad mor aml ag y mynnwch yn yr arholiad.

Pan fyddwch yn cyfieithu, dylech feddwl am y pedair elfen arholi: Ystyr, Cywair, Cystrawen, Cywirdeb

Mae'r rhain yn elfennau cyfleus i fesur safon eich cyfieithu ond cofiwch fod gorgyffwrdd weithiau rhwng yr elfennau hyn. Holwch eich hunan ynghylch y canlynol:

  1. Ystyr: ydych chi wedi deall y pwnc a chyfleu'r holl wybodaeth yn gywir?
  2. Cywair: ydych chi wedi dewis y geiriau, y termau a'r priod-ddulliau addas i'r cyd-destun?
  3. Cystrawen: ydych chi wedi trefnu a chydlynu'ch brawddegau yn ystyrlon a chrefftus?
  4. Cywirdeb: ydych chi wedi cymryd gofal o ran sillafu, treiglo, morffoleg, y cysylltnod, atalnodi ac acenion?

Cam 4:  Edrychwch ar y darn gwreiddiol eto a sylwch ar y sylwadau a'r awgrymiadau a wnaed i wella rhai o'r cyfieithiadau a dderbyniwyd. O'u darllen, gofynnwch sut y byddech chi'n asesu eich cyfieithiad chi.

DS - Sylwadau ar sgriptiau a gyflwynwyd yn yr arholiad dan sylw yw'r rhain a welwch ond gallant fod yn berthnasol i'ch gwaith chithau.

Y cam nesaf: Os teimlwch, ar ôl darllen y sylwadau, eich bod wedi cael hwyl arni, beth am gofrestru ar gyfer yr e-weithdy cyfieithu a chael adborth personol ar eich gwaith?

Ymarfer 1 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae’n bur debyg na fyddai’r Wladfa ym Mhatagonia wedi cael ei sefydlu yn 1865 oni bai am haelioni ariannol un Gymraes, sef Anne Lloyd, gwraig Michael D Jones...

Ymarfer 2 - cyfieithu i'r Saesneg

Mae deiseb ag arni dros ddeg mil o enwau wedi galw am ddileu'r cynlluniau dadleuol i gael cerflun 'cylch haearn' ger Castell y Fflint...