Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Categorïau cyswllt

Mae’r Gymdeithas yn rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau cyfieithu, unedau/adrannau cyfieithu, darpar-aelodau, prentisiaid ac i fyfyrwyr.


Cwmni Cydnabyddedig

Mae categori’r Cwmni Cydnabyddedig yn agored i gwmnïau cyfieithu preifat sy'n gweithredu ym maes cyfieithu Cymraeg i/o'r Saesneg ers o leiaf tair blynedd. Rhaid i'r cwmni gyflogi o leiaf tri chyfieithydd Cymraeg i/o'r Saesneg fel aelodau staff craidd. Rhaid i o leiaf traean o'r staff craidd fod yn aelodau Cyflawn a/neu'n aelodau CAP o'r Gymdeithas. Diffinnir staff craidd fel gweithwyr i'r cwmni – sef perchnogion, cyfarwyddwyr a gweithwyr cyflogedig – sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwneud gwaith cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, prawfddarllen neu olygu.

Mae aelodaeth unigol o'r Gymdeithas yn greiddiol i gael cydnabyddiaeth fel Cwmni Cydnabyddedig. Disgwylir i bob cyfieithydd a gyflogir gan y cwmni fod yn aelod o'r Gymdeithas neu fod yn gweithio tuag at hynny.

Rhaid i gwmni sy'n chwennych y gydnabyddiaeth fodloni nifer o feini prawf a chyflwyno tystiolaeth ddogfennol.


Sefydliad Cydnabyddedig a Sefydliad Cyswllt

Mae categorïau’r Sefydliad Cydnabyddedig a’r Sefydliad Cyswllt yn agored i unedau cyfieithu yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector.

Fel yn achos y Cwmni Cydnabyddedig, mae aelodaeth unigol o'r Gymdeithas yn greiddiol i gael cydnabyddiaeth fel Sefydliad Cydnabyddedig neu Sefydliad Cyswllt. Dyfernir y gydnabyddiaeth ar sail faint o aelodau'r Gymdeithas sy’n gweithio i’r sefydliad neu fwriad y sefydliad i weithio tuag at hynny.

Rhaid i uned sy'n chwennych y gydnabyddiaeth fodloni nifer o feini prawf a chyflwyno tystiolaeth ddogfennol.


Darpar-Aelod

Bwriad cynnig cydnabyddiaeth fel Darpar-Aelod yw annog a chefnogi rhai sydd â'i fryd ar ddilyn gyrfa fel cyfieithydd. Caiff y Darpar-Aelod elwa ar rwydweithiau, cynghorion a rhai o weithgareddau'r Gymdeithas, gan gynnwys gweithdai ac arholiadau am bris gostyngol. Nid yw bod yn Darpar-Aelod yn golygu bod yn aelod o’r Gymdeithas, ac ni chodir tâl.

Mae cydnabyddiaeth fel Darpar-Aelod ar gael i:

  • unrhyw un sy’n dilyn cwrs addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • unrhyw un sydd wedi ei g/chyflogi fel cyfieithydd dan gynllun prentisiaeth
  • unrhyw un o fewn eu 3 blynedd gyntaf fel cyfieithydd.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.